Cafodd y ffordd ei chau wedi'r digwyddiad ddydd Iau
|
Mae'r heddlu'n parhau i chwilio am ddau ddyn wedi lladrad y tu allan i fanc ym Machynlleth ddydd Iau. Cafodd swm o arian ei ddwyn oddi wrth swyddog diogelwch wrth fynedfa Banc Barclays yn Heol Pentrerhedyn. Cafodd dyn ei arestio yn fuan wedi'r digwyddiad ac mae'r heddlu wedi dod o hyd i'r arian. Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Shane Williams: "Rydym yn chwilio am ddau ddyn gwyn sydd o dan amheuaeth. "Rydym yn apelio ar unrhyw un welodd y dynion yng nghyffiniau Canolfan Hamdden Flash ac Allt Gungrog yn y Trallwng rhwng 12.30pm a 5pm ddydd Iau i gysylltu gyda'r heddlu ar 101. "Mae'r dynion yn drwsiadus yr olwg ac yn eu dauddegau canol." Llwyddodd y lladron i ddianc mewn car BMW du gafodd ei ollwng ym mhentre Llanwrin. Wedyn fe yrron nhw gar Mercedes gwyn ac fe ddaeth yr heddlu o hyd i'r car hwnnw ger Canolfan Hamdden y Trallwng.
|