British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 20 Mai 2011, 09:25 GMT 10:25 UK
Gwobrau pensaerniol i dai yng Nghymru

Ty Hedfan
Mae'r ystafell fyw "yn y coed" uwchben yr afon

Mae cynlluniau dau dŷ newydd yng Nghymru wedi derbyn anrhydeddau gan Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain.

O ystafell fyw Tŷ Hedfan ger Aberhonddu mae 'na olygfa sy'n gwneud i chi deimlo eich bod "yng nghanol y coed".

Cafodd The Blue Door ger Cas-gwent ei ganmol am ei "gynildeb swynol".

Ymhlith enillwyr eraill yr oedd adeilad WISE yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen ger Machynlleth ac Oriel Mostyn yn Llandudno.

Derbyniodd Ysgol Rheolaeth Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd; undeb myfyrwyr Prifysgol Morgannwg a champws Prifysgol Cymru Casnewydd wobrau hefyd.

'Darn trawiadol'

Cafodd The Blue Door ei gynllunio ar gyfer cleientiaid oedd wedi ymddeol yn Nyffryn Gwy gan Hall & Bednarczyk Ltd.

I'r perchennog mae'n gartref cynnil a thawel ond dywedodd y beirniaid ei fod yn ddarn trawiadol o bensaernïaeth.

Mae'n mesur 256 medr sgwâr gyda theils copr a phren cedrwydden.

Mae'r ffenestri yn rhai trwchus (trebl) a rhai ar dro.

Er gwaetha'r enw, does 'na ddim drws glas a oedd yn ôl y beirniaid, yn "siomedig".

Mae Tŷ Hedfan ar lan yr afon ym Mhontfaen ger Aberhonddu.

Defnyddiodd y penseiri Featherstone Young wal garreg sych drawiadol sy'n 9 medr o uchder rhwng prif ran y tŷ a'r ystafelloedd gwely.

Mae'r ystafelloedd gwely wedi eu claddu i mewn i'r bryn ac o dan do bywlys gwyrdd.

The Blue Door
The Blue Door heb ddrws glas yn agos ato



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific