British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 19 Mai 2011, 14:44 GMT 15:44 UK
Y ferlen ar daith: Lluniau

Y ferlen mewn tafarn yn Wrecsam
Y ferlen mewn tafarn yn Wrecsam

Mae rhagor o luniau wedi eu datgelu o leoedd yr aeth dyn â'i ferlen, gan gynnwys adran frys ysbyty a thafarn.

Cafodd y ddau eu ffilmio ar gamerâu cylch cyfyng Ysbyty Maelor Wrecsam wrth y dderbynfa.

Yn y cyfamser mae siopwyr wedi cymryd lluniau o'r anifail yn cael ei arwain i dafarn yn y dref.

Roedd George Cawley, cyn athro 62 oed, ar fin cael bwyd mewn tafarn ddydd Gwener pan ddaeth y dyn a'r ferlen i mewn, rhywbeth "gwallgof" meddai. Gofynnwyd iddyn nhw adael yn fuan gan y staff.

Swyddog diogelwch

Yr un diwrnod gofynnodd y dyn i staff yn Ysbyty Maelor drin y ferlen.

Dywedodd llefarydd ar ran y bwrdd iechyd lleol: "Gofynnwyd iddo yn gwrtais gan swyddog diogelwch i adael, ac fe wnaeth hynny gan fynd â'r anifail gydag ef".

Nos Sadwrn am 7pm aeth y dyn â'r ferlen ar blatfform Gorsaf Reilffordd Wrecsam cyn ceisio dal trên i Gaergybi.

Gofynnodd aelod o staff iddo adael ond wedyn aeth e a'r anifail i mewn i lifft cyn ceisio prynu tocynnau i'r ddau.

Ar ôl cael ei wrthod, fe adawodd yr orsaf.

Dywedodd llefarydd ar ran Trenau Arriva: "Yn amlwg, dyw pobl ddim yn gallu mynd ag anifail mawr fel merlen ar drên.

"Rydym yn caniatáu cŵn tywys ac anifeiliaid anwes bach y mae modd eu cario mewn basged ond dydyn ni ddim yn caniatáu anifeiliaid sy'n risg i'r cyhoedd.

"Dwi ddim yn credu bod unrhyw beth fel hyn wedi digwydd o'r blaen."

Y ferlen yn Ysbyty Maelor Wrecsam
Y ferlen yn Ysbyty Maelor Wrecsam



HEFYD
Yr anifail oedd yn 'ormod o risg'
18 Mai 11 |  Newyddion
Cynllun i wella gorsaf drenau
16 Chwef 11 |  Newyddion
Galw am well mynediad i'r anabl
01 Meh 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific