British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 19 Mai 2011, 13:58 GMT 14:58 UK
Tenerife: Triniaeth yng Nghymru

Jennifer Mills-Westley Llun: The Lucie Blackman Trust Missing Abroad
Roedd Jennifer Mills-Westley yn byw ar yr ynys ar ôl ymddeol

Mae wedi dod i'r amlwg fod y dyn wedi ei gyhuddo o dorri pen nain o Brydain yn Tenerife wedi cael triniaeth mewn uned seiciatryddol yng Nghymru.

Honnir bod Deyan Deyanov yn ymweld â theulu pan gafodd ei gadw er ei les ei hun yn Uned Ablett Ysbyty Glan Clwyd ger Bodelwyddan.

Yr wythnos diwethaf cafodd Jennifer Mills-Westley, 60 oed, ei llofruddio yn Los Cristianos.

Yn ôl swyddogion iechyd yn y gpgledd, dydyn nhw ddim wedi cael cysylltiad â Mr Deyanov ers mis Hydref 2010.

"Gall y bwrdd iechyd gadarnhau eu bod wedi cynnig help i Heddlu Gogledd Cymru mewn perthynas â pherson gafodd ei gadw er ei les ei hun yn ystod haf 2010," meddai llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr."

'Adolygu'

Honnir bod y dyn 28 oed wedi cael ei gadw o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.

Ychydig o fanylion sydd wedi eu rhoi gan swyddogion iechyd oherwydd cyfrinachedd cleifion.

"Rydym yn adolygu'n holl gofnodion sy'n ymwneud â'r achos ...," meddai'r llefarydd.

"Fe fyddwn yn cydweithio gyda'r awdurdodau eraill ond mae dyletswydd arnon ni i warchod cyfrinachedd cleifion ac felly fyddwn ni ddim yn gwneud sylwadau pellach am y mater ar hyn o bryd."

Dydi hi ddim yn glir a gafodd y dyn o Fwlgaria ei ryddhau ar ôl cael ei asesu neu a ddihangodd.

Yn ôl adroddiad ym mhapur newydd The Sun fe gafodd driniaeth ysbyty pan oedd yn ymweld â theulu yn y DU.

Mae'r stori'n dyfynnu dwy gyn-gariad oedd yn nodi ei fod yn cymryd llawer o gyffuriau.

Eisoes mae Heddlu Gogledd Cymru wedi gwadu adroddiad papur newydd eu bod wedi casglu gwybodaeth amdano a'r amser y bu yn y DU.

Roedd Mrs Mills-Westley yn dod o Norwich yn wreiddiol.

Ymddeol

Roedd hi mewn siop pan gafodd ei thrywanu cyn i'w phen gael ei dorri.

Roedd y nain i bump yn byw ar yr ynys ar ôl ymddeol.

Mae 'na adroddiadau o Tenerife yn awgrymu bod Mr Deyanov wedi cael triniaeth seiciatryddol ar yr ynys.

Ar Fai 10, dridiau cyn y llofruddiaeth, roedd ynadon wedi gorchymyn y dylid ei arestio mewn cysylltiad ag ymosodiad treisgar.

Mae'r dyn gafodd ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth mewn uned seiciatryddol yn Tenerife.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific