British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 19 Mai 2011, 20:49 GMT 21:49 UK
Rhestr fer cyfrolau Cymru

Caersaint; Bydoedd Ned Thomas a Lladd Duw
Y tair cyfrol yma sydd ar y Rhestr Fer 2011

Cafodd y chwe chyfrol sydd wedi cyrraedd Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2011 eu cyhoeddi mewn digwyddiadau nos Iau.

Yn Galeri Caernarfon ac yn Bar Espresso John Lewis yng Nghaerdydd cafodd y tair cyfrol Gymraeg a'r tair Saesneg eu cyhoeddi.

Dwy nofel a chofiant cyfnod oedd yn hawlio lle ar y rhestr eleni, yn ôl y beirniaid Simon Brooks, Gerwyn Williams a Kate Crockett.

Y cyfrolau ar y Rhestr Fer Gymraeg yw: Caersaint gan Angharad Price; Lladd Duw gan Dewi Prysor a Bydoedd gan Ned Thomas

"Dyma ddwy nofel wych am ddylanwad y byd ar Gymru, ac un campwaith o gofiant am Gymru yn y byd," meddai Simon Brooks, cadeirydd panel y beirniaid Cymraeg.

Darllenwch

"Rwy'n siŵr y bydd cyfraniad y tri awdur i lenyddiaeth Gymraeg yn arhosol, ac rydym yn llongyfarch y tri llenor ar eu camp."

Dywedodd Peter Finch, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru bod y wobr unwaith eto yn dewis y gorau o Gymru.

"Chwech sydd yn y ras a phob un werth ei darllen.

"Dechreuwch nawr."

Cafodd Angharad Price ei magu ym Methel, Caernarfon.

Mae Caersaint yn nofel am Jaman Jones sy'n dychwelyd i'w dref enedigol ar ôl etifeddu tŷ ei fodryb, ac mae'n cynnig sylwebaeth ddeifiol ar fywyd tref Gymraeg ar ddechrau'r ganrif hon.

Nofelydd, bardd a cherddor o Gwm Prysor, Trawsfynydd yw Dewi Prysor.

Fe yw awdur y drioleg lwyddiannus, Madarch, Brithyll a Crawia.

Lladd Duw yw ei nofel ddiweddaraf, nofel ddwys-dywyll yw hon ond fel sy'n nodweddiadol o'r awdur, mae digon o hiwmor ynddi hefyd.

Awdur, beirniad ac ymgyrchydd diwylliannol yw Ned Thomas.

Cafodd ei fagu yng Nghymru, Lloegr, Yr Almaen a'r Swistir.

Mae Bydoedd: Cofiant Cyfnod yn hunangofiant sy'n codi cwestiynau gwleidyddol a diwylliannol pwysig.

Gwobrau

Y cyfrolau Saesneg eu hiaith sydd wedi llwyddo i gyrraedd y Rhestr Fer eleni yw: What the Water Gave Me gan Pascale Petit; Cloud Road gan John Harrison a Terminal World gan Alastair Reynolds.

Fe fydd enwau'r enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo nos Iau Gorffennaf 7 yn Cineworld, Caerdydd.

Bydd £10,000 ar gael i'r ddau enillydd - un yn Gymraeg ac un yn Saesneg - yn ogystal â £1,000 yr un i'r pedwar arall.

Eleni bydd y seremoni ar ei newydd wedd gyda charped coch ac adloniant gan Bois yr Ysgol Gerdd a'r DJs The Vinyl Vendettas.

Mae nifer cyfyngedig o docynnau ar gael i'r cyhoedd drwy gysylltu â Llenyddiaeth Cymru.



HEFYD
'Amrywiaeth o lyfrau' ar restr hir
13 Ebr 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific