British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 19 Mai 2011, 14:11 GMT 15:11 UK
Ail-ystyried cau gorsafoedd gwylwyr y glannau

Hofrennydd Gwylwyr y Glannau
Roedd 'na fwriad i gau mwy na hanner gorsafoedd Gwylwyr y Glannau

Fe fydd y llywodraeth yn ail-ystyried cynlluniau i gau rhai o orsafoedd Gwylwyr y Glannau ym Mhrydain.

Roedd 'na gynlluniau i gau mwy na hanner ac israddio'r gweddill.

Mae BBC Cymru yn deall y bydd y llywodraeth yn dal i gau rhai gorsafoedd - ond llai na'r bwriad gwreiddiol ym mis Rhagfyr.

Ond dyw cyhoeddiad yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth ddydd Iau ddim o reidrwydd yn golygu y bydd y cynlluniau yn cael eu rhoi o'r neilltu.

Mae'r llywodraeth wedi estyn y cyfnod ymgynghorol er mwyn i Bwyllgor Trafnidiaeth Tŷ'r Cyffredin gael amser i asesu'r cynlluniau.

Protestiadau

Bu protestiadau yn Aberdaugleddau a Chaergybi yn erbyn y cynllun.

Y bwriad gwreiddiol oedd cau gorsafoedd Aberdaugleddau a Chaergybi ac israddio Abertawe.

Erbyn hyn, mae'r Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Philip Hammond, wedi dweud ei fod yn ail-edrych ar y cynlluniau i leihau nifer y gorsafoedd o 18 i 5.

"Rydym yn edrych eto ar yr opsiynau gorau ... ac yn gobeithio cyhoeddi manylion cyn i'r Senedd ddod i ben ar gyfer yr haf.

"Nid newid meddwl yw hyn ond ystyried y ffordd orau i gyflwyno'r newid ..."

Dywedodd Dennis O'Connor, aelod o ymgyrch Achub Aberdaugleddau, fod pobl Sir Benfro, Sir Gaerfryddin a Cheredigion wedi cefnogi'r brotest.

"Mae'n dda bod y llywodraeth wedi cydnabod eu bod wedi gwneud camgymeriad a'u bod am lunio cynlluniau newydd."

Ond dywedodd ei fod yn credu y byddai rhai gorsafoedd yn dal yn cau.

Protest yn erbyn cau'r gorsafoedd
Mae nifer o brotestiadau wedi bod

"Rydym yn ffyddiog fod yna ddyfodol i'r orsaf yn Aberdaugleddau ond byddwn yn parhau i ymgyrchu tan fod hynny'n swyddogol."

Dywedodd Albert Owen AS Llafur Ynys Môn: "Mae'r holl beth wedi bod yn drychinebus o'r cychwyn cyntaf.

"Mae'r cyhoedd a Gwylwyr y Glannau wedi datgan yn glir eu bod yn anfodlon."

Roedd AS Preseli Penfro, y Ceidwadwr Stephen Crabb, wedi dweud ei fod yn optimistaidd y byddai gorsaf Aberdaugleddau yn cael ei hachub.

Dywedodd y byddai'n "siomedig iawn' pe na bai'r orsaf ar agor ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori.

Teyrnged

Mae Plaid Cymru wedi croesawu'r penderfyniad i ailystyried.

"Diolch byth bod y llywodraeth wedi plygu i'r pwysau," meddai'r AS Jonathan Edwards.

"Roedd y cynlluniau yma yn gwbl hurt o'r cychwyn.

"Hoffwn dalu teyrnged i'r ymgyrchwyr yn Aberdaugleddau sy wedi tynnu sylw at y pwnc."



HEFYD
Rali gorsaf gwylwyr y glannau
30 Ebr 11 |  Newyddion
Gwylwyr y Glannau: Rali arall
19 Maw 11 |  Newyddion
Croesawu mwy o gyfnod ymgynghori
13 Maw 11 |  Newyddion
Cau gorsafoedd Gwylwyr y Glannau
16 Rhag 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific