British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 19 Mai 2011, 19:34 GMT 20:34 UK
Cleverly yn bencampwr byd

Nathan Cleverly
Bydd Nathan Cleverly yn wynebu Tony Bellew nos Sadwrn

Cafodd y Cymro Nathan Cleverly ei goroni'n bencampwr WBO is-drwm y byd.

Daeth y cadarnhad ddydd Iau ar ôl y newyddion na fyddai'r pencampwr, Jurgen Brehmen, yn ymladd y Cymro nos Sadwrn.

Fe dynnodd yr Almaenwr allan o'r ornest ddydd Mercher gydag anaf i'w lygad.

Cafodd gornest arall ei threfnu ar fyr rybudd gyda Tony Bellew yn cynnig ei hun i ymladd yng nghanolfan yr O2 nos Sadwrn.

Ond wrth bwyso'r ddau focsiwr nos Iau, fe ddaeth hi'n amlwg fod Bellew mwy na hanner stôn dros yr uchafswm pwysau i ymladdwyr is-drwm.

Bu'n rhaid trefnu bocsiwr arall felly, a'r trydydd dewis yw Aleksy Kuziemski o Wlad Pwyl - mae'n rhif 11 ar restr detholion y WBO.

"Rwy'n falch o fod yn ymladd - dyna sy'n bwysig fel nad yw'r holl waith wedi bod yn ofer.

"Mae ganddo (Kuziemski) record dda, a fydd hi ddim yn hawdd."

Bydd Cleverly felly yn ceisio amddiffyn ei goron nos Sadwrn yn erbyn dyn sydd wedi ennill 21 o'i 23 gornest yn y sgwar bocsio.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific