British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 19 Mai 2011, 06:47 GMT 07:47 UK
Cipolwg ar fioamrywiaeth Eryri

Ty Hyll
Bydd yr arbenigwyr natur yn tywys teithiau yn ymwneud a rhywogaethau gwahanol

A wyddoch chi beth sy'n byw ac yn ffynnu yn eich milltir sgwâr?

Dros y penwythnos mae Cymdeithas Eryri am gynnal 'BioBlitz.

Ymgyrch yn erbyn y cloc i weld pa bryfaid, adar, planhigion a mamaliaid sydd i'w weld mewn llecyn penodol o dir.

Y llyn, nant, coedwig a gardd ger y Tŷ Hyll, Capel Curig, yw'r lleoliad y tro yma.

Mae'r gymdeithas am i'r cyhoedd defnyddio'r sgiliau bydden nhw'n ei ddysgu yn eu cynefinoedd nhw er mwyn gwybod pa rywogaethau sy'n byw ac yn iach yng Nghymru.

"Dyma'r un gyntaf o'i fath i ni wneud," meddai is-gyfarwyddwr Cymdeithas Eryri, Sarah Medcalf.

'Diogelu'r amgylchedd'

"Mae o'n bwysig i ddangos i bobl faint o amrywiaeth sydd 'na ar eu stepen drws.

"Mae yna gannoedd o organebau yma o dan ein trwynau, ond i ni edrych."

Mae cael cymorth y cyhoedd yn bwysig iawn wrth i ni gynnal y mapiau a galerïau lluniau ar y wefan
Aisling Carrick o wefan
quote here
name here
Cofnod

Bydd sawl arbenigwr mewn natur yn cynnal teithiau cerdded o amgylch y pum acer, yn nodi'r fioamrywiaeth gyda chymorth y cyhoedd.

"Dim ond drwy wybod be sydd yna y mae modd diogelu'r amgylchedd," meddai Sarah Medcalf.

"Mae grŵp o wirfoddolwyr wedi ceisio sicrhau fod yr ardal yma llawn bioamrywiaeth.

"Dwi sicr yn gobeithio gweld olion moch daear a llwynogod, mathau gwahanol o bryfaid a'r gwybed brith.

"Mi fyddem hefyd yn gosod maglau ar gyfer llygod, llygod y dŵr a chwistlod er mwyn gweld pa fath o famaliaid bach sy'n byw yno."

Bydd yr holl wybodaeth wedyn yn cael ei recordio ar wefan Cofnod, gwasanaeth wybodaeth amgylcheddol gogledd Cymru.

Rhywogaethau estron

Eglurodd Sarah Medcalf bod croeso i unrhyw un rhannu gwybodaeth am yr hyn maen nhw'n gweld yn eu cynefin ar wefan Cofnod, sydd wedyn yn gallu creu mapiau o'r fioamrywiaeth o fewn gogledd Cymru.

Mae Cofnod hefyd yn annog y cyhoedd i rannu gwybodaeth am leoliadau draenogod yng ngogledd Cymru, gan fod niferoedd y rhywogaeth cyfarwydd yn gostwng.

"Ond bydd digwyddiadau fel y BioBlitz yma hefyd yn helpu gyda'n ymgyrch i recordio rhywogaethau estron," eglurodd Aisling Carrick o Cofnod.

"Mae pethau fel y minc a'r sarff clustgoch bosib yn fygythiad i'n rhywogaethau brodorol.

"Mae cael cymorth y cyhoedd yn bwysig iawn wrth i ni gynnal y mapiau a galerïau lluniau ar y wefan."

Bydd y digwyddiadau yn cychwyn am 12pm ddydd Gwener a dydd Sadwrn Mai 20 a 21.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific