British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 19 Mai 2011, 05:45 GMT 06:45 UK
BBC o dan y lach

S4C
Pwyllgor: Y cytundeb yn 'briodas glec'

Mae un o bwyllgorau San Steffan wedi beirniadu'r BBC am y modd y cytunodd i gymryd cyfrifoldeb am ariannu S4C.

Dywedodd adroddiad y Pwyllgor Dethol Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon ei bod yn "anhygoel fod y BBC wedi cytuno i'r newid heb unrhyw ymgynghoriad gyda'r sianel ei hun".

Bwriad Llywodraeth San Steffan yw y bydd S4C yn cael ei chyllido o'r arian trwydded deledu yn lle grant uniongyrchol o'r llywodraeth yn San Steffan.

Dywedodd Aelodau Seneddol ar y pwyllgor fod y cytundeb yn "briodas glec".

Mae'r adroddiad eang am nifer o agweddau'r BBC wedi dweud ei bod yn "aneglur" sut y gall S4C gynnal ei hannibynniaeth o dan y trefniadau cyllido newydd o 2013 ymlaen.

'Uniad lletchwith'

Yn eu hadroddiad, mae'r pwyllgor wedi dweud: "Rydym yn credu ei bod hi'n anhygoel fod y llywodraeth a'r BBC - sydd yn amddiffynnol iawn o'i hannibyniaeth ei hun - yn ei gweld hi'n dderbyniol i gytuno i'r newid yn nhrefn lywodraethol ac ariannol darlledwr statudol annibynnol arall, S4C, heb i'r sianel honno gael unrhyw ran na hyd yn oed wybodaeth am y cytundeb tan iddo gael ei wneud.

Does gan y BBC ddim uchelgais i gymryd drosodd S4C
Llefarydd ar ran y BBC

"Mae'r briodas glec rhwng S4C a'r BBC yn uniad lletchwith."

Ond mynnodd llefarydd ar ran y BBC eu bod wedi ymrwymo i S4C annibynnol.

Ar hyn o bryd mae S4C yn derbyn y mwyafrif o'i chyllid drwy grant oddi wrth y llywodraeth oedd yn 2009-10 werth tua £100 miliwn.

Ond y llynedd cyhoeddodd y Canghellor George Osborne yn yr Adolygiad Gwariant y byddai'r mwyafrif o gyllid y sianel o'r drwydded deledu o 2013 ymlaen.

"Does gan y BBC ddim uchelgais i gymryd drosodd S4C," meddai llefarydd ar ran y BBC.

"Rydym wedi ymrwymo i S4C sy'n annibynnol yn greadigol, ac yn denu refeniw o ystod eang o ffynonellau, gan gynnwys ffi'r drwydded."

Yn y cyfamser, mae grŵp ymbarél o undebau a mudiadau wedi galw ar y BBC a S4C i dynnu allan o'u trafodaethau am ddyfodol darlledu Cymraeg.

'Diddymu'

Mae'r grŵp yn cynnwys BECTU, Undeb y Newyddiadurwyr, Undeb yr Ysgrifenwyr, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ac Undeb y Cerddorion.

Dywedodd llefarydd: "Mae'n amser diddymu'r cynlluniau annoeth ar gyfer S4C, cynlluniau y mae arweinwyr y pedair prif blaid yng Nghymru a ddau bwyllgor pwysig wedi eu beirniadu.

"Mae degau o filoedd wedi llofnodi deiseb, mynychu ralïau ac ysgrifennu at wleidyddion."

Yr wythnos diwethaf fe ddywedodd adroddiad Pwyllgor Materion Cymreig San Steffan fod y cytundeb rhwng y BBC a'r llywodraeth i ariannu'r sianel wedi ei wneud "ar frys".

Ychwanegodd ei bod hi'n "drueni" i'r penderfyniad gael ei wneud "o fewn ychydig o oriau" ac nad oedd ymgynghori.



HEFYD
S4C: Galw am ddiswyddiadau
12 Mai 11 |  Newyddion
S4C: 'Angen adolygiad llawn'
11 Mai 11 |  Newyddion
Cadeirydd S4C: Enwi'r ffefryn
09 Mai 11 |  Newyddion
S4C: Protestio yn Llundain
30 Maw 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific