British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 18 Mai 2011, 11:44 GMT 12:44 UK
Cyhoeddi arlwy Maes C

Maffia Mr Huws sy'n cloi'r wythnos
Maffia Mr Huws sy'n cloi'r wythnos

Mae trefnwyr Maes C yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a'r Fro wedi addo arlwy "eclectig sy'n gymysgedd o bob math o genres" eleni.

Bydd yr arlwy yn cychwyn ar nos Sadwrn, Gorffennaf 30, gyda Dafydd Iwan a Gwyneth Glyn.

Yn dilyn patrwm y llynedd, mae nos Sul yn noson i'r teulu, gyda Bob Delyn a'r Ebillion, caneuon Cwm Rhyd y Rhosyn gyda Dafydd Iwan a Twm Morys yn perfformio hwiangerddi Cymraeg.

Bydd Sibrydion yn cynnal gig hwyr nos Lun Awst 1 - gan gychwyn ar ôl i'r cyngerdd Clasuron Pop orffen yn y Pafiliwn ar y Maes.

Sioe lwyfan 'Mae Caryl Parry Jones yn fyw' sy'n diddanu cynulleidfa Maes C nos Fawrth a Noson Barddas a Llenyddiaeth Cymru fydd ym Maes C nos Fercher, sef Dal dy Dafod yng nghwmni Myrddin ap Dafydd, Ifor ap Glyn, Mei Mac, Twm Morys a Geraint Lovgreen.

Nos Iau, bydd un o berfformwyr y saithdegau'n dychwelyd i lwyfan yr Eisteddfod, gyda sioe hollol newydd Hywel Ffiaidd, sydd wedi'i chreu gan Meic Povey, yn arbennig ar gyfer Maes C Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a'r Fro.

Stomp

Noson y Stomp yw nos Wener, a drefnir gan Llenyddiaeth Cymru.

Maffia Mr Huws sy'n cloi'r wythnos, gyda Daniel Lloyd a Mr Pinc.

Cynhelir Maes C yn Ysgol Clywedog (yr hen Ysgol Bryn Offa), sy'n gyfochrog â'r Maes Carafannau swyddogol, sydd ar dir Fferm Bers Isaf, oddi ar Ffordd Rhuthun, Wrecsam, wrth ymyl y Maes ei hun.

Cynhelir yr Eisteddfod o Orffennaf 30 - Awst 6.

Gellir archebu tocynnau Maes C ar-lein - www.eisteddfod.org.uk - neu drwy ffonio'r Llinell Docynnau ar 0845 4090 800. Yn ogystal gellir prynu tocynnau ar gyfer Dal dy Dafod a'r Stomp gan Llenyddiaeth Cymru ar 029 2047 2266.



HEFYD
Eisteddfod yn colli £30,000
12 Mai 11 |  Newyddion
Hwb dros frecwast i'r iaith
17 Chwef 11 |  Newyddion
Eisteddfod: Dau docyn am bris un
25 Maw 11 |  Newyddion
Tri thenor yn agor cyngherddau'r Brifwyl
23 Chwef 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific