British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 18 Mai 2011, 11:07 GMT 12:07 UK
Yr anifail oedd yn 'ormod o risg'

Ceffyl yn ceisio teithio ar drÍn

Cafodd staff Gorsaf Reilffordd Wrecsam dipyn o sioc pan geisiodd dyn fynd â merlen ar drên.

Digwyddodd hyn am 7pm nos Sadwrn pan aeth dyn â'r ferlen ar blatfform yr orsaf cyn ceisio dal trên i Gaergybi.

Cafodd y digwyddiad ei ffilmio ar gamerâu cylch cyfyng.

Gofynnodd aelod o staff iddo adael ond wedyn aeth e a'r anifail i mewn i lifft cyn ceisio prynu tocynnau i'r ddau.

Ar ôl cael ei wrthod, fe adawodd yr orsaf.

Dywedodd llefarydd ar ran Trenau Arriva: "Yn amlwg, dyw pobl ddim yn gallu mynd ag anifail mawr fel merlen ar drên.

"Rydym yn caniatáu cŵn tywys ac anifeiliaid anwes bach y mae modd eu cario mewn basged ond dydyn ni ddim yn caniatáu anifeiliaid sy'n risg i'r cyhoedd.

"Dwi ddim yn credu bod unrhyw beth fel hyn wedi digwydd o'r blaen."

Ceisiodd brynu tocynnau iddo ef a'r ferlen
Ceisiodd brynu tocynnau iddo ef a'r ferlen



HEFYD
Cynllun i wella gorsaf drenau
16 Chwef 11 |  Newyddion
Galw am well mynediad i'r anabl
01 Meh 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific