Mae trefnwyr yn disgwyl 20,000 o fyfyrwyr i fynychu'r ŵyl a gynhelir rhwng Mehefin 16 a 20
|
Mae gŵyl gerddoriaeth ddadleuol a fydd yn cael ei chynnal yn Sir Gaerfyrddin yn ystod yr haf wedi gwerthu bron dwywaith fwy o docynnau na'r llynedd. Ym 2010 gwelwyd gwrthwynebiad brwd gan bobl leol i Ŵyl Beach Break Live ym Mharc Gwledig Penbre, ger Llanelli. Roedd trigolion yr ardal yn ddig am fod y parc wedi ei gau yn ystod yr ŵyl ac roedden nhw wedi datgan eu pryderon am sŵn a sbwriel. Bu'n rhaid i'r trefnwyr sicrhau trwydded gan Gyngor Sir Caerfyrddin mewn gwrandawiad pedwar diwrnod cyn cael cynnal y digwyddiad. Ond mae cynghorwyr Sir Gaerfyrddin yn honni fod llai o wrthwynebiad ymysg pobl leol eleni. Dawnsfeydd Mae trefnwyr yn disgwyl 20,000 o fyfyrwyr i fynychu'r ŵyl a gynhelir rhwng Mehefin 16 a 20. Eleni bydd Tinie Tempah a'r White Lies yn cymryd rhan yn yr ŵyl a fydd hefyd yn gartref i gampau, gemau, dawnsfeydd a gweithgareddau drama yn ogystal â bariau a bwyd. Canfu astudiaeth gan Brifysgol Bournemouth fod yr economi leol wedi elwa o £2.4m yn sgil ŵyl y llynedd. Dywedodd Cynghorydd Penbre, Hugh Sheperdson: " Roedd llawer o wrthwynebiad i'r ŵyl y llynedd ac mae rhai yn dal i'w gwrthwynebu ond rwy'n credu fod pobl leol yn teimlo'n fwy positif am yr achlysur eleni. "Mae'r trefnwyr wedi sefydlu pwyllgor yr ŵyl ac o ganlyniad mae pobl leol wedi cael cyfle i fynegi eu pryderon". 12,500 Mynychodd 12,500 o fyfyrwyr yr ŵyl ym 2010 ac fe arestiwyd 14 o bobl gan yr heddlu am droseddau amryw yn cynnwys lladrata, cyffuriau a thramgwyddau yn erbyn y drefn gyhoeddus. Ond dywedodd Heddlu Dyfed-Powys mai pobl leol oedd y mwyafrif o'r rheiny a arestiwyd. Cafodd yr ŵyl gyntaf, sydd yn gyfyngedig i fyfyrwyr, ei chynnal yng Nghernyw yn 2007 ond bu rhaid i'r trefnwyr ail leoli i barc saffari yng Nghaint yn 2008 ar ôl i gynghorwyr wrthod rhoi caniatâd cynllunio iddyn nhw. Dywedodd Ian Forshew, rheolwr gyfarwyddwr Student Seed Ltd, y cwmni sy'n trefni'r ŵyl, ei fod ar ben ei ddigon ynglŷn â'r paratoadau am yr ŵyl eleni. "Rydyn ni wedi profi bod y digwyddiad yn gallu cael ei chynnal heb achosi aflonyddwch. "Hefyd mae'r economi leol wedi elwa ers dyfodiad yr ŵyl i Benbre, sydd yn lleoliad perffaith."
|