British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 17 Mai 2011, 14:40 GMT 15:40 UK
Dwr Cymru ar waelod y tabl perfformiad

Dwr
Dwr Cymru: Y canlyniadau'n 'siomedig'

Dŵr Cymru sydd ar waelod tabl perfformiad cwmnïau dŵr i raddau oherwydd record llygredd y cwmni.

Asiantaeth yr Amgylchedd oedd wedi rhestru'r cwmnïau yn 2009 a Dŵr Cymru oedd y gwaetha o'r 10 cwmni yn y DU.

Dywedodd llefarydd ar ran Dŵr Cymru fod hyn "yn siomedig" ond bod record y cwmni wedi gwella yn 2010.

Mae'r tabl yn adroddiad Busnes Gwyrddach yr asiantaeth, adroddiad sy'n mesur i ba raddau mae cwmnïau'n dilyn amodau trwydded yn ogystal ag edrych yn fanwl ar lygredd a chynlluniau gwella.

'Effaith o bwys'

Yn 2009 cofnododd Dŵr Cymru 318 achos yn y drydedd adran, y rhai ag efafith leol neu dymor byr ar yr amgylchedd.

Roedd 'na saith achos yn yr ail adran lle oedd "effaith o bwys ond lleol ar ansawdd dŵr".

Doedd 'na ddim achos yn yr adran gynta lle oedd effaith helaeth ar ansawdd dŵr.

Er bod achosion llygredd difrifol wedi gostwng ers 2004, meddai'r asiantaeth, roedd nifer yr achosion llai difrifol yr un peth, tua 2,200 y flwyddyn.

I raddau helaeth, yr achos oedd pibau carffosiaeth yn gollwng.

"Mae dŵr glân yn ein hafonydd, llynnoedd a dŵr arfordirol yn allweddol i'r amgylchedd ac i economi Cymru," meddai llefarydd ar ran yr asiantaeth.

"Pan mae 'na achosion llygredd yn effeithio ar y system ddŵr, rydym yn dod o hyd i'r rhai sy'n troseddu ac yn gweithredu."

'Lle i wella'

Dywedodd eu bod yn cydweithio'n agos gyda Dŵr Cymru i wella'r perfformiad a lleihau'r effaith ar yr amgylchedd.

"Er bod 'na lai o achosion mawr dros y blynyddoedd, mae 'na le i wella, yn benodol yn yr achosion llai difrifol ...," ychwanegodd.

Mae Dŵr Cymru wedi dweud: "Rydym yn ymroi i barhau i wella'r amgylchedd ac wedi ennill llawer o dir dros y 10 mlynedd diwethaf, yn enwedig oherwydd buddsoddi yn amgylchedd arfordirol ac afonydd Cymru.

"Yn 2010 roedd 20% yn llai o ddigwyddiadau llygredd, yn enwedig y rhai sy'n cael eu hachosi gan broblemau'r system garthffosiaeth.

"Mae diogelu ein harfordir a'n hafonydd yn flaenoriaeth ac rydym yn falch fod tua 33% Baneri Glas Prydain yng Nghymru."

Cwmni Dŵr Wessex ddaeth i'r brig ac roedd Dŵr Sir Efrog yn ail.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific