British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 17 Mai 2011, 12:31 GMT 13:31 UK
Ansefydlogrwydd ar ôl cyhoeddiad Ieuan Wyn Jones?

Ieuan Wyn Jones
Fydd Ieuan Wyn Jones yn ildio'r arweinyddiaeth o fewn y ddwy flynedd a hanner nesaf

Mae aelodau blaenllaw Plaid Cymru wedi gwadu y gall cyhoeddiad yr arweinydd Ieuan Wyn Jones y bydd yn ymddiswyddo fel arweinydd "rywbryd o fewn hanner cyntaf y tymor yma o'r Cynulliad" achosi ansicrwydd.

Wedi etholiad siomedig lle syrthiodd cynrychiolaeth Plaid Cymru o 15 sedd yn 2007 i 11 eleni, cyhoeddodd Mr Jones ddydd Gwener y byddai'n ymddiswyddo maes o law.

Mae'r blaid wedi dechrau ystyried beth aeth o'i le yn yr etholiad - ac edrych yn fanwl ar strategaeth at y dyfodol.

"Mae'n iawn i Ieuan Wyn Jones arwain y blaid trwy'r broses honno," yn ôl Simon Thomas, AC Canol De Cymru.

"Os edrychwch yn ofalus ar beth wedodd Ieuan, mae e wedi dweud na fydd yn mynd ymlaen ymhellach na hanner cyntaf y Cynulliad," meddai mewn cynhadledd newyddion ddydd Mawrth.

Asesu siom

Daw ei sylwadau wedi i'r blaid gyfarfod yn Aberystwyth ddydd Sadwrn i drafod cyfeiriad y blaid.

"Mae'r pwyllgor gwaith wedi gosod rhaglen... sy'n ail-edrych ar siapio'r blaid.

"Mae angen camau ail-sefydlu'r blaid cyn penderfynu pwy all ein harwain ni."

Ychwanegodd Elin Jones, AC Ceredigion, fod y cyfarfod ddydd Sadwrn wedi bod yn "adeiladol."

"Roedd pawb yn derbyn siomedigaeth yr etholiad," meddai.

Misoedd nesaf

Dywedodd y byddai asesu camgymeriadau'r gorffennol yn digwydd dros y misoedd nesaf.

"Mae pob plaid yn mynd trwy gyfnodau o atgyfnerthu ... ac rydym ni'n mynd i gymryd y cyfle ...

"Dydw i ddim yn meddwl bod cyhoeddiad Ieuan yn creu ansicrwydd - mae'n gosod sicrwydd o fwriad i ddirwyn i ben cyfnod fel arweinydd.

"Mae'r amser yn fater y bydd yn ei ystyried ymhellach gyda Plaid Cymru dros y misoedd nesaf."



HEFYD
Marathon o ras i arwain Plaid Cymru
14 Mai 11 |  Newyddion
Ieuan Wyn Jones i sefyll i lawr
13 Mai 11 |  Newyddion
Cyhoeddi aelodau'r Cabinet
13 Mai 11 |  Newyddion
Tyngu llw fel Prif Weinidog
12 Mai 11 |  Newyddion
Ergyd i Blaid Cymru
06 Mai 11 |  Newyddion
Yr arweinwyr: Ieuan Wyn Jones
02 Mai 11 |  Newyddion
Dilyn yr Arweinydd: Plaid Cymru
29 Ebr 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific