British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 17 Mai 2011, 17:24 GMT 18:24 UK
Cwch chwyldroadol gan fyfyrwyr Coleg yr Iwerydd

Y Psychedelic Surfer
Y Psychedelic Surfer oedd y cwch RIB gyntaf i ddod at sylw'r byd pan gymerodd rhan mewn ras o amgylch Prydain yn 1969

Creu cwch gwib er mwyn achub bywydau oedd gwaith cartref myfyrwyr Ysgol yr Iwerydd, Bro Morgannwg yn y 1960au.

Cynnyrch eu gwaith caled oedd y cwch pwmpiadwy â chragen anhyblyg {Rigid-hulled Inflatable Boat neu RIB}, sydd yn dal i gael ei ddefnyddio hyd heddiw.

Gyda'i gwaelod caled a'i ochrau hyblyg, mae'r RIB yn cael ei ddefnyddio gan y lluoedd arfog, fel cwch pleser ac fel bad achub.

Daeth y syniad gwreiddiol o blith disgyblion yr ysgol preswyl, sydd wedi ei leoli mewn castell o'r 12fed ganrif ar lannau culfor Bryste.

Sefydlwyd yr ysgol yn 1962 gan addysgwr Almaenig o dan arweiniad y cyn-lyngesydd Desmond Hoare.

O dan ei ddylanwad, roedd gan y coleg orsaf bad achub ei hun, gyda'r myfyrwyr ar gael i achub ei gilydd os oedd rhywun mewn argyfwng ar y môr.

Ond daethant i'r casgliad eu bod angen cychod gwell na'r rhai rwber wrth ymdopi â dyfroedd y culfor.

Staff a myfyrwyr yn cario cwch pwmpiadwy i lawr ir dwr
Adeiladodd y myfyrwyr y gragen anhyblyg gyntaf allan o bren

Mae David Sutcliffe, aelod o'r staff ar y pryd, yn cofio cyfnod dyfeisio'r cwch newydd yn ei lyfr, The RIB: the Rigid-Hulled Inflatable Lifeboat and its Place of Birth - the Atlantic College.

"Y peth pwysicaf oedd y syniad i ddod at ei gilydd y gragen uchel ei pherfformiad a thiwb rwber," meddai.

"Roedd y myfyrwyr wastad yn llawn syniadau a nhw wnaeth yr adeiladu. Mae'n rhaid ein bod wedi adeiladu o leiaf 30 o gychod, a mynd â nhw allan ar y môr i'w brofi.

"Ac roedd sawl enghraifft o bethau'n mynd o'i le".

Yn araf deg, llwyddodd y myfyrwyr i greu templed i'r RIB gyflym, ysgafn pwerus y gwelwn heddiw.

Daeth y clod cyntaf yn 1969, pan adeiladodd dau fyfyriwr o'r Iseldiroedd cwch ar gyfer y ras cychod wib o amgylch Prydain.

Cymerodd tair wythnos i'w adeiladu a daeth yn 19eg allan o dros 60 o gystadleuwyr.

"Eu cwch nhw oedd arwr y ras," meddai Mr Sutcliffe. "Profodd bod cwch o'r fath â'r gallu i wrthsefyll yr amgylchiadau gwaethaf, llawer gwell na sawl math arall o gwch."

Bad achub B-Class Atlantic
Cafodd B Class Atlantic yr RNLI ei enwi ar l y coleg preswyl

Gwelodd yr RNLI potensial eu cwch, ac aethant ati i greu model ffibr gwydrog; y B-Class Atlantic 21, er cof am y coleg.

Gwerthodd llyngesydd Desmond Hoare y patent i'r elusen am £1, er heddiw credir iddo fod gwerth £15m y flwyddyn.

Daeth yr Atlantic 21 yn rhan o lynges yr RNLI yn 1972, ac erbyn 1993 roedd wedi bod allan 15,601 o weithiau, gan achub 4,717 o fywydau.

Erbyn heddiw, mae'r RNLI yn defnyddio'r B-class Atlantic 75 ac Atlantic 85, gan barhau i gofnodi cyfraniad y myfyrwyr.

Mae cwch sydd wedi ei wneud o fowld gwreiddiol y myfyrwyr i'w weld yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe hyd at ddiwedd Mai.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific