Collodd 400 o weithwyr eu gwaith yn 2009
|
Mae yna gynlluniau i ddatblygu canolfan wyliau mawr ar hen safle cwmni Aliwminiwm Môn, ger Caergybi. Dywed Cyngor Môn eu bod yn croesawu'r newyddion fod cwmni Land and Lakes wedi arwyddo cytundeb opsiwn gydag Aliwminiwm Môn. Yn ôl Land and Lakes mae'n bosib bydd y ganolfan yn creu hyd at 600 o swyddi. Rhoddwyd y gorau i gynhyrchu aliwminiwm ar y safle, oedd yn arfer cyflogi 400, ym mis Medi 2009. Dywedodd Alex Aldrige, un o Gomisiynwyr sy'n rheoli Cyngor Sir Ynys Môn, y gallai'r fenter ddiweddaraf roi "hwb mawr" i'r ynys. 'Hwb pellach' "Dros y 18 mis diwethaf, mae'r Awdurdod wedi bod yn cydweithio'n barhaol gydag Aliwminiwm Môn a Llywodraeth Cymru er mwyn creu swyddi ar y tir sydd ar hyn o bryd ym mherchnogaeth Aliwminiwm Môn. "Mae hyn yn gam mawr yn y cyfeiriad iawn er mwyn cyflawni'r nod yma. "Mae posibilrwydd hefyd o greu rhagor o swyddi sylweddol ar yr hen safle gwaith fyddai'n hwb pellach sylweddol ar gyfer economi Caergybi a'r ynys ehangach." Cafodd y newyddion hefyd ei groesawu gan Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones. "Bydd hyn yn ehangu apêl Ynys Môn a'r gogledd orllewin fel cyrchfan i dwristiaid," meddai. Dywed cwmni Land and Lakes eu bod yn ystyried defnyddio rhan o'r safle er mwyn codi tai ar gyfer gweithwyr fyddai'n adeiladu atomfa Wylfa B. "Mae'r cwmni wedi cynnal trfafodaethau gyda Horizon Nuclear Power ynglyn â defnyddio rhan o'r tir i godi tai," meddai Richard Sidi, prif weithredwr Land and Lakes. Ychwanegodd arweinydd newydd y Cyngor, y Cynghorydd Bryan Owen, bod hyn yn newyddion gwych i'r Ynys. "Mae'r potensial i greu buddsoddiad mawr er lles dyfodol tymor hir yr economi. "Mae Môn wedi dioddef cymaint yn ddiweddar wrth golli swyddi. "Mae'r bwriad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus yn hwyrach yn y flwyddyn er mwyn cychwyn trafod gyda'r gymuned leol hefyd yn gam i'w groesawu." Mae'r Awdurdod yn disgwyl derbyn cais cynllunio i'w ystyried o fewn oddeutu 12 mis.
|