Gall cannoedd o swyddi gael eu creu ar y safle
|
Gall swyddi cynhyrchu a thwristiaid gydfodoli ar Ynys Môn yn ôl Aelod Seneddol yr ynys. Wrth ymateb i'r cynlluniau ar gyfer parc hamdden newydd gyda'r posibilrwydd o greu 600 ger Caergybi, dywedodd Albert Owen mai mater o gael y balans yn gywir oedd hi. Ychwanegodd bod yr ynys yn gweddu i ddyfodol twristiaeth gynaliadwy. Mae gan gwmni Land and Lakes opsiwn i brynu 630 erw o dir sy'n berchen i gwmni Aliwminiwm Môn ym Mhenrhos. Y cwmni sydd wedi cynnal a chadw'r parc arfordirol fel rhan o'u cynllun cymunedol ers sefydlu'r gwaith yn 1969. Bwriad Land and Lakes yw creu canolfan wyliau enfawr ar y safle. Balans Mae Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, wedi croesawu'r "cynlluniau uchelgeisiol". Mae disgwyl cyhoeddiad arall ym mis Mehefin lle gall hyd at 500 o swyddi eraill gael eu creu yn hen waith smeltio ar y safle. Dywedodd Mr Owen bod hi'n bwysig bod yr ynys yn rhywle y mae pobl eisiau ymweld â hi, dim dim ond gyrru drwyddi i weddill Cymru neu i Iwerddon. Gyda thechnoleg newydd does dim rhaid dewis unai technoleg wyrdd neu waith cynhyrchu. "Mae angen swyddi.... gwyliau....rhaid cael y balans yn gywir. "Dwi ddim yn gefnogwr brwd o waith biomas ond doed neb eisiau mynd yn ôl i danwydd ffosil. "Rhaid gwneud yn siŵr bod 'na ymgynghoriad cyhoeddus "Mae angen y swyddi yma ar gyfer y dyfodol."
|