British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sul, 15 Mai 2011, 16:42 GMT 17:42 UK
Jones yn galw am hyfforddwr newydd

Cyn gapten Cymru yn dweud y dylai'r Gweilch newid eu hyfforddwr a chael gwared a Sean Holley.

Mae cyn gapten rygbi Cymru, Gwyn Jones, yn dweud y dylai'r Gweilch newid eu hyfforddwr yn dilyn y golled o 18 i 11 yn erbyn Munster yn rownd gynderfynol Cynghrair Magners nos Sadwrn.

Er gwaetha'r sgôr agos, dim ond 45% o'r meddiant gafodd y Gweilch a 28% o'r tir.

Dywedodd Jones ar raglen Y Clwb Rygbi ar S4C y dylai'r hyfforddwr Sean Holley fynd.

Gofynnwyd i'r Gweilch ymateb i sylwadau dadleuol Gwyn Jones, ond hyd yma daeth dim ymateb.

Bydd dau o brif chwaraewyr y Gweilch - James Hook a Lee Byrne - yn gadael y rhanbarth i chwarae eu rygbi yn Ffrainc y tymor nesaf, ac fe fydd y prop Craig Mitchell a'r blaenasgellwr Marty Holah hefyd yn gadael y Liberty.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific