British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 16 Mai 2011, 06:11 GMT 07:11 UK
Rhybudd am brinder gofalwyr maeth

Rhiant maeth
Mae dros 4,000 o blant yn byw gyda 3,000 o deuluoedd maeth yng Nghymru

Daeth rhybudd fod pobl ifanc yn eu harddegau yng Nghymru yn colli'r cyfle i gael bywyd teuluol sefydlog oherwydd prinder rhieni maeth.

Ar ddechrau Pythefnos Maethu, dywedodd Rhwydwaith Maethu Cymru fod 10% yn fwy o blant mewn gofal yng Nghymru nag yn 2007.

Mae'r mudiad wedi cynnal arolwg o'r gwasanaethau yng Nghymru, ac mae'r canlyniadau'n destun pryder.

Yn eu plith mae'r ystadegau canlynol :-

  • 92% o'r gwasanaethau maethu yn dweud fod prinder teuluoedd maeth i bobl yn eu harddegau;
  • 83% o'r gwasanaethau angen gofalwyr maeth i bobl rhwng 11 a 15 oed nag unrhyw oedran arall;
  • 39% yn dweud fod y pwysau i ddod o hyd i ofalwyr maeth i bobl yn eu harddegau yn waeth na'r llynedd, gyda'r 61% arall yn dweud ei bod cynddrwg.

Blaenoriaeth

Mae babanod a phlant ifanc yn cael y flaenoriaeth pan mae teuluoedd maeth ar gael, gydag awdurdodau lleol yn cael trafferth dod o hyd i deuluoedd i bobl yn eu harddegau.

Canlyniad hyn oll yw bod pobl ifanc yn gorfod mynd i fyw yn bell o'u cartrefi, ac yn gorfod newid ysgolion mewn cyfnod allweddol yn eu haddysg.

"Mae'n bryder go iawn nad oes digon o bobl yn cynnig eu cartrefi i bobl ifanc," meddai Cyfarwyddwr Rhwydwaith Maethu Cymru, Freda Lewis.

"Mae gofal maeth yn darparu cartrefi sefydlog a diogel i bobl yn eu harddegau sy'n cael amser anodd.

"Mae'r bobl ifanc yma yn colli allan mewn cyfnod o'u bywydau allai wneud gwahaniaeth mawr iddyn nhw."

Mae'r mudiad yn apelio ar bobl sy'n ystyried dod yn rhieni maeth i gysylltu gyda nhw ar frys.

"Os yw gofalu am bobl ifanc yn eu harddegau, neu blant ieuengach, yn rhywbeth y mae gennych y sgiliau i'w wneud, mae Pythefnos Maethu yn gyfle gwych i ganfod mwy am hynny," ychwanegodd Freda Lewis.



HEFYD
Plant maeth: 'Gormod o symud'
21 Mai 10 |  Newyddion
Prinder gofalwyr maeth yng Nghymru
18 Ion 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific