British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 16 Mai 2011, 06:22 GMT 07:22 UK
Galw am ddysgu sgiliau achub bywyd

Adfywio wedi trawiad
Mae'r cwrs yn cynnwys medru adfywio person sydd wedi diodde' trawiad.

Dyw dros hanner plant ddim yn gallu rhoi cymorth i rywun sydd wedi cwympo'n sâl yn y stryd er bod 73% yn dymuno bod o gymorth, medd arolwg newydd.

Comisiynwyd yr arolwg gan Sefydliad y Galon (BHF), ac maen nhw'n galw ar Lywodraeth newydd Cymru i newydd cwricwlwm ysgolion uwchradd er mwyn dysgu sgiliau achub bywyd.

Mae'r arolwg yn dangos bod cefnogaeth gan athrawon a rhieni i ddysgu sgiliau o'r fath.

Yng Nghymru, roedd 81% o rieni yn meddwl y dylai fod cwrs ELS - Achub Bywyd mewn Argyfwng - yn cael ei ddysgu mewn ysgolion, ac roedd 85% o athrawon yn cytuno.

'Newid syml'

"Rhaid i Lywodraeth Cymru gydnabod y gall y newid syml yma i'r cwricwlwm achub bywydau drwy roi sgiliau i bobl ifanc fedru gweithredu mewn argyfwng," meddai Delyth Lloyd, Rheolwr Materion Cyhoeddus BHF Cymru.

"Byddai'r hyfforddiant syml yma yn y dosbarth yn galluogi miloedd o bobl ifanc ar draws Cymru fedru gwneud gwahaniaeth yn eu cymunedau."

Mae sgiliau ELS yn cynnwys adfywio rhywun sydd wedi cael trawiad, sut i ddelio gyda pherson sy'n anymwybodol, delio gyda gwaedu difrifol ac ati.

Dwy awr

Ychwanegodd Ms Lloyd: "Mae dysgu sgiliau fel hyn mor bwysig â'u dysgu sut i ddarllen ac ysgrifennu.

"Dim ond dwy awr mae'n cymryd i'w dysgu - dwy awr ymhob blwyddyn yn yr ysgol - i roi'r gallu i bob person ifanc achub bywyd."

Bob blwyddyn yn y DU, mae 30,000 o bobl yn diodde' trawiad y tu allan i'r ysbyty, ac mae aelodau o'r cyhoedd yn dyst i bron hanner o'r rheini.

Mae llai nag un o bob deg yn goroesi.

Mae cynllun Heartstart BHF eisoes wedi hyfforddi 2.6 miliwn o bobl ar draws y DU mewn sgiliau ELS.

Mae'r mudiad nawr yn gofyn i rieni, athrawon a phlant i arwyddo deiseb i wneud ELS yn rhan orfodol o'r cwricwlwm cenedlaethol.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific