British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sul, 15 Mai 2011, 09:19 GMT 10:19 UK
Bachgen 5 oed wedi marw mewn gwrthdrawiad

Yr A483 ger y Trallwng
Digwyddodd y gwrthdrawiad ar ffordd brysur yr A483.

Bu farw bachgen pump oed ac fe gafodd tri pherson arall eu hanafu mewn gwrthdrawiad ar ffordd ym Mhowys.

Dywedodd yr heddlu fod y gwrthdrawiad wedi digwydd ar yr A483 tuan milltir i'r gogledd o'r Trallwng am 5:25pm ddydd Sadwrn.

Cafodd un person ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Frenhinol Amwythig, tra bod dau arall wedi cael eu cludo mewn ambiwlans.

Y ddau gerbyd fu mewn gwrthdrawiad a'i gilydd oedd car Citroen Saxo lliw aur a Nissan Qashqai coch.

Mae'r heddlu wedi cydymdeimlo gyda theuluoedd y rhai ddioddefodd yn y gwrthdrawiad ac wedi gofyn i unrhyw dystion gysylltu gyda nhw ar unwaith drwy ffonio Heddlu Dyfed Powys ar 101.

Dyw'r heddlu ddim eto wedi cyhoeddi manylion am y rhai fu yn y gwrthdrawiad.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific