Ieuan Wyn Jones yn gwneud ei gyhoeddiad ar Ynys Môn
|
Mae Ieuan Wyn Jones wedi cyhoeddi y bydd yn ymddiswyddo fel arweinydd Plaid Cymru rywbryd yn hanner cyntaf tymor y Cynulliad. Un ar ddeg o seddi enillodd Plaid Cymru yn yr etholiad, hynny yw pedair sedd yn llai na'r 15 gafodd eu hennill yn 2007. Dywedodd Mr Jones: "Erbyn Awst eleni byddaf wedi bod mewn rôl arweinyddol ym Mhlaid Cymru ers un mlynedd ar ddeg, y trydydd cyfnod di-dor hiraf yn hanes y blaid. Mae hi wedi bod yn fraint aruthrol i mi ... "Rydw i'n hynod o falch o lwyddiannau'r Blaid yn ystod y pedair blynedd diwethaf yn arbennig. "Braint fawr oedd cael bod yn Ddirprwy Brif Weinidog ac yn Weinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth. Does dim gwell anrhydedd na gwasanaethu eich cenedl mewn llywodraeth." 'Siomedig' Dywedodd fod canlyniadau etholiad 2011 yn "siomedig i Blaid Cymru" a'i fod fel arweinydd "yn cymryd rhan o'r cyfrifoldeb am y canlyniadau hynny".
 |
Addysg: Ysgol Ramadeg Pontardawe a Choleg Politecnig Lerpwl
Daeth yn gyfreithiwr ym 1973
Ymgeisydd aflwyddiannus yn Etholiad Cyffredinol 1974 yn etholaeth Dinbych
Ym 1975 daeth yn Is-Gadeirydd Plaid Cymru
Ymgeisydd aflwyddiannus am sedd Ynys Môn yn Etholiad Cyffredinol 1983
Cipiodd sedd Ynys Môn yn Etholiad Cyffredinol 1987
Enillodd sedd Ynys Môn yn Etholiad y Cynulliad 1999
Daeth yn Llywydd y blaid ym mis Awst 2000
|
Ychwanegodd: "Gan nad oeddwn wedi bwriadu arwain y blaid yn etholiad 2016, roedd hi wastad wedi bod yn fwriad gennyf i sefyll i lawr fel arweinydd rywbryd yn ystod y Cynulliad yma, beth bynnag oedd canlyniad yr etholiad." "Rydw i'r un mor glir na fyddai cael etholiad arweinyddiaeth yn syth o fudd i'r blaid o ystyried yr angen am yr adolygiad sydd angen ei gynnal." Mae disgwyl i Dafydd Elis-Thomas gadarnhau heno y bydd yn ymgeisio am swydd yr arweinydd. Arglwydd Elis-Thomas oedd arweinydd y blaid rhwng 1984 a 1991. Mae cyn Gadeirydd Plaid Cymru, John Dixon, adawodd y blaid ychydig cyn i'r ymgyrch etholiadol ddechrau, wedi dweud bod penderfyniad Mr Jones yn "gywir ac anochel". Dywedodd Mr Dixon wrth BBC Cymru fis Mawrth ei fod wedi gadael y blaid am ei fod yn anfodlon ar ei chyfeiriad. Mae Mr Jones yn wleidydd ar lefel genedlaethol er 1987 pan ddaeth y cyfreithiwr o Ddinbych yn Aelod Seneddol Môn. Daeth yn Llywydd ar y Blaid yn Awst 2000 ar ôl i Dafydd Wigley ildio'r awenau oherwydd rhesymau meddygol. Yng nghytundeb clymblaid 2007, yn ogystal â bod yn Ddirprwy Brif Weinidog, cafodd Mr Jones bortffolio pwysig yr economi.
|