Agorwyd y burfa olew yn Aberdaugleddau yn 1973
|
Mae swyddogion Asiantaeth yr Amgylchedd wedi lansio ymchwiliad ynglŷn â phroblemau drewdod ym mhurfa olew yn Aberdaugleddau. Lansiwyd yr ymchwiliad yr wythnos hon yn sgil 18 achwyniad gan bobl leol am eu bod yn honni fod 'aroglau sylffyraidd' wedi deillio o burfa Murco. Cadarnhaodd yr asiantaeth fod nwy sylffyraidd wedi dianc o'r burfa ond bod y tarddiad wedi'i leoli a'r broblem wedi ei datrys. Dywedodd llefarydd ar ran yr asiantaeth: "Rydyn ni wedi penderfynu parhau'r ymchwiliad i sicrhau na fydd unrhyw broblem debyg yn digwydd yn y dyfodol". Arogl Annymunol Mae'r asiantaeth wedi trafod y digwyddiad gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru. Dywed yr asiantaeth fod y risg i iechyd pobl yn sgil y fath datguddiad o nwy yn isel. Ond mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi datgan eu pryder ynglŷn â'r broblem. Cafwyd cwynion o arogl annymunol sy'n gysylltiedig â'r burfa yng Ngorffennaf 2010. Mae'r BBC wedi gofyn i Murco am eu hymateb.
|