British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 12 Mai 2011, 16:48 GMT 17:48 UK
S4C: Galw am ddiswyddiadau gwirfoddol

Pencadlys S4C yn Llanisien, caerdydd
Mae'r sianel yn chwilio am ddiswyddiadau gwirfoddol

Mae S4C wedi cyhoeddi eu bod wedi sefydlu cynllun diswyddiadau gwirfoddol.

Daw'r penderfyniad o ganlyniad i doriadau yng nghyllideb y sianel sy'n rhan o Adolygiad Gwariant Cynhwysfawr Llywodraeth San Steffan a gafodd ei gyhoeddi ym mis Hydref.

Prif Weithredwr S4C, Arwel Ellis Owen, wnaeth y cyhoeddiad i'r staff ddydd Iau.

Mae'r sianel yn wynebu toriad yn y gyllideb o 24% dros bedair blynedd.

Yn ogystal â gwahodd ceisiadau diswyddo gwirfoddol fe wnaeth S4C ddweud hefyd ei fod yn barod hefyd i ystyried ceisiadau gan staff sy'n dymuno lleihau eu horiau gwaith neu rannu swydd.

Dyfodol yn y fantol

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymateb i'r newyddion gan ddweud "na fydd digon o staff ar ôl gyda'r sianel i gynnal gwasanaeth annibynnol".

"Dechreuad yn unig yw hwn," meddai Bethan Williams, Cadeirydd y Gymdeithas.

"Mae toriadau enfawr y Llywodraeth yn rhoi dyfodol S4C fel sianel annibynol yn y fantol...ac fe all y BBC gymryd drosodd yn gyfangwbl."

Dywedodd y gallai'r sefyllfa droi i'r hyn yr oedd cyn dyfodiad y sianel, "pan oedd cystadleuaeth am adnoddau rhwng rhaglenni Cymraeg a Saesneg".

"Yn y diwedd, bydd ein holl gymdeithas yn dioddef, wrth i'r Gymraeg, etifeddiaeth unigryw holl drigolion Cymru, ddiflannu o'n bywydau," ychwanegodd.

"Mae mwyafrif ASau Cymru, arweinydd y pedair prif blaid yng Nghymru, pob undeb a mudiad iaith, y degau o filoedd o bobl sydd wedi mynychu ein cyfarfodydd a ralïau yn gwrthwynebu'r cynlluniau hyn.

"Maen nhw i gyd yn dweud 'Na i Doriadau, Ie i S4C newydd'.

"Ond, mae'r llywodraeth a'r BBC yn gwrthod gwrando. Dyw pobl Cymru ddim yn dwp: rydyn ni'n gwybod nad oes angen torri 94% o grant y Llywodraeth i'r sianel oherwydd y - mae'n doriad cwbl annheg."

Fe wnaeth Llywodraeth San Steffan gyhoeddi yn bod disgwyl i S4C gael ei chyllido trwy ffi'r drwydded yn hytrach nag yn uniongyrchol o'r llywodraeth o 2013 ymlaen.

Ar hyn o bryd, mae'r sianel yn derbyn grant gan y Llywodraeth - tua £100 miliwn yn 2009/10.

Ond does dim sicrwydd o gyllideb y sianel tu hwnt i 2014-15 ac mae'r pwyllgor eisiau i'r Llywodraeth sicrhau cyllideb hir dymor i'r sianel.



HEFYD
'Toriadau S4C yn peryglu perthynas'
15 Hyd 10 |  Newyddion
S4C a BBC i gyd-weithio
14 Hyd 10 |  Newyddion
S4C: Amheuaeth am doriad o £2m
21 Medi 10 |  Newyddion
S4C: 'Angen adolygiad llawn'
11 Mai 11 |  Newyddion
Cadeirydd S4C: Enwi'r ffefryn
09 Mai 11 |  Newyddion
S4C: Galw am eglurhad
30 Gorff 10 |  Newyddion
S4C: Pwy yw'r Cadeirydd?
25 Tach 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific