Mae Cyngor Gwynedd yn dadlau y byddai cau Ysgol Y Parc yn arbed £70,000 y flwyddyn
|
Mae cynghorwyr Cyngor Gwynedd wedi penderfynu cau Ysgol Y Parc fel rhan o'u cynlluniau i ad-drefnu addysg yn ardal Y Bala. Daeth y penderfyniad ddydd Iau er gwaethaf gwrthwynebiad ymgyrchwyr. Roedd y cyngor wedi dweud y byddai hyn yn arbed tua £70,000 y flwyddyn. Aeth llefarydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar addysg, Ffred Ffransis, heb ddŵr na bwyd am 50 awr cyn y cyfarfod. Yn hytrach na chau'r ysgol roedd y mudiad iaith wedi argymell ffederaleiddio'r ysgolion gwledig lleol.
|