British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 13 Mai 2011, 06:26 GMT 07:26 UK
Uned newydd i gleifion strc yn Ysbyty Glan Clwyd

Ysbyty Glan Clwyd
Bydd yr hen unedau o dan yr un to ym Modelwyddan

Mae cyfleusterau newydd ar gyfer cleifion strôc wedi agor yn Ysbyty Glan Clwyd.

Mae hwn yn cyfuno'r Uned Adsefydlu Strôc a'r Uned Dydd Adsefydlu, a oedd wedi'u lleoli yn Ysbyty HM Stanley, â'r Uned Strôc yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan, Sir Ddinbych.

Dywed Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr fod tystiolaeth feddygol yn dweud mai uned gyfun yw'r ffordd orau o ddarparu gwasanaethau strôc.

Mae 30 gwely yn yr uned sy'n agos at yr adran therapïau.

Gwell mynediad

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr: "Mae'r uned wedi cael ei hailwampio a'i hymestyn i sicrhau bod amgylchedd cyfforddus, heddychlon a thawel yno.

"Rydym yn gwybod y bydd hyn yn helpu cleifion i wella."

Yn ôl y bwrdd mae uned gyfun yn darparu nifer o fuddion i gleifion, gan gynnwys gwell mynediad at wasanaethau therapi.

Dywedodd llefarydd ar ran Fforwm Strôc Gogledd Cymru: "Rydym yn croesawu dwyn yr holl wasanaethau strôc dan un to mewn uned gyfun, ac rydym yn credu y bydd hyn yn arwain at effeithiau tymor hir pwysig ar driniaeth cleifion strôc.

"Bydd yn galluogi datblygiad 'Canolfan Rhagoriaeth' ar gyfer gwasanaethau strôc, wrth ganiatáu i ni wneud y defnydd mwyaf effeithiol o adnoddau."

Mae cynllun ailddatblygu'r ysbyty eisoes wedi dechrau a disgwylir i'r gwaith gostio £100m.

Bydd y gwaith yn cynnwys gwelliannau i gyfleusterau'r adrannau damweiniau ac achosion brys a gofal critigol.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific