British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 12 Mai 2011, 06:59 GMT 07:59 UK
Eisteddfod yn colli £30,000

Y Pafiliwn Pinc

Mae trefnwyr yr Eisteddfod Genedlaethol yn wynebu talcen caled wrth geisio sicrhau bydd yr Ŵyl eleni yn talu ffordd.

Nod yr Eisteddfod yw denu £400,000 mewn nawdd gan gwmnïau busnes. Ond oherwydd y daeargryn a'r tsunami yn Japan, mae rhai cwmnïau o'r wlad honno wedi tynnu addewidion o nawdd yn ôl.

Mae Toyota a Sharp - sydd â ffatrïoedd yn cyflogi cannoedd o weithwyr yng Nglannau Dyfrdwy a Llai - wedi tynnu'r arian yn ôl ar y funud olaf oherwydd trafferthion ariannol yn sgil y trychinebau naturiol.

Dywedodd trefnydd yr Eisteddfod, Hywel Wyn Edwards, fod hynny'n golygu bydd yr Ŵyl yn colli rhwng £20,000 a £30,000.

Heriau

Mae pwyllgorau lleol yn sir Wrecsam eisoes wedi codi tua £210,000 tuag at eu nod o £300,000, ac mae Mr Edwards yn cyfadde' bod yr hinsawdd economaidd wedi creu heriau mwy nag ym Mlaenau Gwent y llynedd.

Dywedodd Mr Edwards: "O'n i'n adrodd yn y pwyllgor gwaith bod ni wedi cyrraedd addewidion i mewn yn bendant a bod gyda ni £370,000 yn y banc, fel petai, ac mae hwnna yn ffigwr anhygoel. Mae fe dros 10% o gost yr Eisteddfod yn sicr, ond mae wedi bod yn anodd.

"Da ni wedi bod yn siarad efo amryw, a 'da ni wedi cynnal brecwast busnes ac yn y blaen, ond mae 'na nifer yn ardal Wrecsam 'da ni di bod yn siarad efo nhw am gyfnod maith oedden ni wedi cytuno, coeliwch neu beidio, efo un neu ddau o gwmnïau mawr fel Toyota a Sharp ond ar y funud ola' maen nhw wedi gorfod tynnu allan.

"O'n i erioed wedi meddwl y byddai rhywbeth fel y daeargrynfeydd a'r tsunami yn Japan yn effeithio ar yr Eisteddfod Genedlaethol ond dyna beth sydd wedi digwydd."

Mae'r nawdd o fyd busnes a'r arian sy'n cael ei godi gan bwyllgorau lleol yn ychwanegol i'r arian ddaw i'r Eisteddfod Genedlaethol yn flynyddol o ganlyniad i gytundeb gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.



HEFYD
Hwb dros frecwast i'r iaith
17 Chwef 11 |  Newyddion
Eisteddfod: Dau docyn am bris un
25 Maw 11 |  Newyddion
Tri thenor yn agor cyngherddau'r Brifwyl
23 Chwef 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific