Fe dyngodd y llw o flaen Mr Ustus Lloyd Jones
Mae Carwyn Jones wedi tyngu llw fel Prif Weinidog Cymru cyn penodi gweinidogion ei gabinet newydd. Dim ond Gweinidogion Llafur fydd ar restr ddethol Mr Jones wedi i'r blaid ddewis llywodraethu ar ei phen ei hun - er iddyn nhw ennill hanner seddi'r Cynulliad, un yn brin o fwyafrif clir. Fe dyngodd y llw am yr ail waith ar ôl i'r Frenhines gymeradwyo'r penodiad yn gynharach ddydd Iau. Y tro cyntaf iddo dyngu llw oedd ym mis Rhagfyr 2009 ar ôl iddo gymryd yr awenau oddi wrth Rhodri Morgan fel arweinydd Llafur.
Dyma'r ail waith i Mr Jones dyngu llw
|
Ei gyd-Aelodau Cynulliad enwebodd Mr Jones yn ddiwrthwynebiad ddydd Mercher. "Maen fraint cael gwasanaethu pobl Cymru fel Prif Weinidog a dechrau ein rhaglen uchelgeisiol i greu Cymru decach a mwy llewyrchus a hynny mewn cyfnod anodd iawn," meddai ar ôl tyngu llw. "Cyn bo hir byddaf yn cyhoeddi fy Nghabinet fydd yn helpu i gyflawni ein gweledigaeth ar gyfer pobl Cymru." Mae'n bosib y bydd nifer o wynebau newydd yn y cabinet gan fod 12 o'r 30 aelod Llafur wedi eu hethol am y tro cyntaf yn yr etholiad yr wythnos diwethaf. Yng nghabinet cyntaf Mr Jones roedd gan aelodau Plaid Cymru nifer o swyddi pwysig yn unol â threfniant cytundeb clymbleidiol Cymru'n Un.
|