British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 12 Mai 2011, 06:02 GMT 07:02 UK
Pryder am wariant cynnal a chadw ffyrdd yng Nghymru

Gweithiwr yn atgyweirio'r ffordd
Y cynghorau sir sy'n gyfrifol am waith cynnal a chadw ar 95 % o ffyrdd Cymru

Mae pryderon wedi cael eu codi am gyflwr ffyrdd Cymru am fod gwybodaeth newydd yn awgrymu cynnydd yn nhagfa gwaith i gynnal a chadw ffyrdd.

Mae ymchwil gan BBC Cymru wedi canfod bod bwlch o £200m rhwng y swm mae awdurdodau lleol angen ei wario i wella cyflwr ffyrdd a'r gwariant maent wedi ei glustnodi ar gyfer eleni.

Dywed cymdeithas yr AA fod gan ffyrdd Cymru gymaint o geudyllau fel bydd y mater yn achosi problemau i bobl sy'n defnyddio'r ffyrdd, yn enwedig beicwyr.

Yn ôl yr AA, cafodd £47 miliwn ei wario ar iawndal yn 2009 i bobl oedd wedi diodde' niwed corfforol neu niwed i'w cerbydau oherwydd y tyllau.

'Cyfnod llwm'

Gofynnodd y BBC i gynghorau amcangyfrif y gost o atgyweirio ffyrdd i safon dda ac amcangyfrif y gost o atgyweirio am y flwyddyn ariannol 2011-12.

Gan seilio'r data ar wybodaeth a dderbyniwyd gan 13 o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, mae'r BBC yn honni fod angen gwario £250m i gyflawni'r holl atgyweiriadau ond mae cynghorau dim ond yn bwriadu gwario £42m tan Ebrill 2012.

Dywedodd llefarydd ar ran yr AA, Luke Bosdet: "Dylai ffyrdd Cymry gael eu hatgyweirio mewn ymgais i'w hadfer.

"Mae'r broblem wedi achosi am na atgyweiriwyd yr heolydd pan nad oedden ni'n byw mewn cyfnod llwm."

Mae'r ymchwil y BBC, hefyd yn datgan fod y gwariant i atgyweirio ffyrdd Cymru yn amrywio o £36.5m yn Sir Fflint i £8m yn ym Mro Morgannwg.

Y cynghorau sir sy'n gyfrifol am waith cynnal a chadw ar 95% o ffyrdd Cymru.

Llywodraeth y Cynulliad sy'n gyfrifol am wariant ar draffyrdd a phriffyrdd.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad nad oedden nhw am drafod y mater cyn i Weinidog dros Drafnidiaeth newydd gael ei benodi yn dilyn yr etholiad ar Mai 5.

Ond, ym mis Chwefror penderfynodd Llywodraeth y Cynulliad rhoi £15m i gynghorau sir i atgyweirio ffyrdd a ddifrodwyd gan eira a rhew'r gaeaf diwethaf.

Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth leol Cymru fod y gronfa wedi'i defnyddio gan bob awdurdod lleol yng Nghymru.

Ychwanegodd y llefarydd: "Mae maint y broblem yn golygu y bydd rhaid buddsoddi'n barhaus mewn rhwydwaith ein priffyrdd."



HEFYD
'Tyllau'n fwy o broblem'
05 Ion 11 |  Newyddion
Ffyrdd Cymru yw'r gorau, medd arolwg
20 Ion 11 |  Newyddion
£2.75m ar gyfer tyllau ffyrdd
01 Chwef 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific