British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 12 Mai 2011, 05:44 GMT 06:44 UK
Ysgol: Penderfyniad terfynol

Ysgol Y Parc
Mae Cyngor Gwynedd yn dadlau y byddai cau Ysgol Y Parc yn arbed £70,000 y flwyddyn

Bydd Cyngor Gwynedd yn penderfynu yn derfynol ddydd Iau a fyddan nhw'n bwrw ymlaen gydag ad-drefnu ysgolion yn ardal Y Bala, er gwaethaf gwrthwynebiad ymgyrchwyr.

Mae'r cynlluniau yn cynnwys cau Ysgol Y Parc ger Y Bala.

Mae'r Cyngor yn dweud y byddai'n arbed tua £70,000 y flwyddyn.

Mae llefarydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar addysg, Ffred Ffransis, yn mynd heb ddŵr na bwyd am 50 awr cyn y cyfarfod ddydd Iau.

Yn hytrach na chau'r ysgol, mae'r mudiad iaith wedi argymell ffederaleiddio'r ysgolion gwledig lleol.

Y gymuned Gymraeg

Mae Mr Ffransis yn poeni am effaith cau Ysgol Y Parc ar y gymuned Gymraeg.

Fel rhan o'r cynllun ad-drefnu, mae adran addysg Cyngor Gwynedd yn argymell cau Ysgol Y Parc erbyn mis Medi 2012 gan gynnig lle i'r plant yn Ysgol O M Edwards, Llanuwchllyn.

Maen nhw hefyd yn bwriadu sefydlu Campws Gydol-oes yn Y Bala ar gyfer addysg 3-19 oed sy'n cyfuno ysgolion cynradd Beuno Sant a Bro Tegid gydag Ysgol Uwchradd Y Berwyn.

Mae'r Cyngor hefyd am hybu cydweithio rhwng y campws newydd ac ysgolion cynradd Ffridd y Llyn, Bro Tryweryn ac O M Edwards.

'Dim cyfiawnhad'

Ond mewn llythyr a anfonwyd gan Gymdeithas yr Iaith at bob cynghorydd, dywed Ffred Ffransis nad oes "unrhyw reswm addysgol dros gau'r ysgol, nag unrhyw arbedion ariannol ar raddfa a all gyfiawnhau chwalu cymuned Gymraeg.

 Ffred Ffransis
Mae Ffred Ffransis yn poeni am effaith cau Ysgol Y Parc ar y gymuned Gymraeg

"Fy nghred ddiffuant yw bod bywyd y gymuned Gymraeg fechan hon yn y Parc yn y fantol, ac y bydd colli'r ymdrech i gadw'r ysgol yn ergyd i fywyd lliaws o gymunedau Cymraeg bychain eraill.

"Symbol o fywyd yw dŵr ac, er mwyn ceisio argraffu ar y Cyngor mor ddifrifol yw'r argyfwng i fywyd y gymuned hon, byddaf yn treulio heb ddŵr na bwyd yng Nghaernarfon y 50 awr cyn dechrau'r cyfarfod."



HEFYD
Ymgyrchydd yn bygwth ymprydio dros ysgol
09 Mai 11 |  Newyddion
Cynlluniau i gau ysgol gam yn nes
15 Maw 11 |  Newyddion
Cau ysgol: Cymeradwyo adroddiad
24 Chwef 11 |  Newyddion
Cyngor o blaid cau ysgolion
16 Rhag 10 |  Newyddion
Model ar gyfer adfywio cymunedau?
25 Awst 10 |  Newyddion
Cyngor o blaid cau ysgolion
15 Gorff 10 |  Newyddion
Ad-drefnu: Creu ysgol gydol oes
13 Mai 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific