Rosemary Butler sy'n debygol o fod yn Llywydd ar y pedwerydd Cynulliad
|
Mae Aelodau'r Cynulliad wedi enwebu Carwyn Jones yn Brif Weinidog a phenodi Rosemary Butler a David Melding yn Llywydd a Dirprwy Lywydd. Gyda'r rhwysg arferol ac i oriel wylio lawn, eisteddodd sesiwn gyntaf y pedwerydd Cynulliad. Cyn llywyddu dros ethol Rosemary Butler fel Llywydd newydd, swyddogaeth olaf yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas yn y sedd oedd cymell aelodau o'r gwahanol bleidiau i dalu teyrnged i'r diweddar Brynle Williams, fu farw yn nyddiau olaf y Cynulliad diwethaf tra'n Aelod Cynulliad rhanbarth Gogledd Cymru dros y Ceidwadwyr. Cafwyd teyrngedau twymgalon gan aelodau o bob plaid.
Ieuan Wyn Jones o Blaid Cymru enwebodd Mrs Butler i lywyddu, a chafodd sêl bendith lawn ei rhagflaenydd wrth iddi gael ei hethol yn ddi-wrthwynebiad. 'Cyfnod newydd' "Pleser arbennig i mi yw llongyfarch Rosemary Butler yn Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac rwy'n datgan fy nghefnogaeth lwyr iddi," meddai'r Arglwydd Elis-Thomas wrth gymell Mrs Butler i gymeryd y gadair. Ar ôl rhoi teyrnged i'w rhagflaenydd dywedodd ei bod yn "fraint" i gael bod yn Llywydd. "Mae hwn yn ddechrau cyfnod newydd, fe fydd yn gyfnod heriol i Gymru," meddai. "Fe gawsom ni bleidlais o hyder gan bobl Cymru yn y refferendwm, mae'n rhaid i ni nawr wireddu disgwyliadau pobl Cymru." Aelod Cynulliad Gorllewin Casnewydd fydd bellach yn cadeirio a chadw trefn ar ddadleuon yn y Siambr a dehongli'r rheolau sefydlog sy'n dweud sut mae'r Cynulliad i weithio.
Etholwyd David Melding fel Dirprwy Lywydd o 46 pleidlais i 12.
|
Roedd ethol ei dirprwy yn fwy o ddigwyddiad wrth i ddau aelod o Blaid Cymru enwebu dau geidwadwr am y swydd; William Graham AC a David Melding AC. Jocelyn Davies AC enwebodd Mr Graham a Simon Thomas enwebodd Mr Melding a bu rhaid i'r sesiwn dorri am hanner awr er mwyn cynnal pleidlais gudd. O 46 pleidlais i 12 , Mr Melding orfu. Fe fydd Mr Melding a Mr Graham yn eistedd drws nesaf i'w gilydd yn y siambr am y pum mlynedd nesaf ac fe addawodd Mr Melding y byddai'r ddau'n "parhau'n ffrindiau." 'braint' Tasg olaf yr ACau yn y sesiwn gyntaf oedd enwebu Prif Weinidog. Wedi i Joyce Watson enwebu Carwyn Jones, doedd dim gwrthwynebiad o'r pleidiau eraill iddo gymeryd y fantell.
Brynhawn Mawrth, dywedodd Carwyn Jones bod ei blaid ac ef ei hun yn hapus i redeg llywodraeth Lafur yn unig, er mai 30 sedd enillodd ei blaid yn yr etholiad - hanner y seddi ond un yn brin o fwyafrif clir. Wrth anerch y siambr, dywedodd ei fod yn gobeithio byddai'r pleidiau eraill yn cynnig eu cefnogaeth iddo. "Mae'n fraint ac anrhydedd i dderbyn yr enwebiad hwn i fod yn Brif Weinidog Cymru eto," meddai. "Yn anorfod mewn democratiaeth fe fydd craffu... "Yn anorfod fe fydd y Llywodraeth yn cael ei ddwyn i gyfrif ac mae'n rhywbeth i'w groesawu. "Ond rwy yn gobeithio y bydd achlysuron lle y byddwn ni'n gallu dod i gytundeb mewn meysydd polisi, er mwyn pasio deddfwriaeth a datblygu polisïau er lles pobl Cymru." 'dwyn y llywodraeth i gyfrif' Tra bod arweinydd dros dro'r Ceidwadwyr yn y Cynulliad yn llongyfarch llwyddiant Llafur yn yr etholiad, dywedodd y byddai ei blaid ef yn gweithredu fel "gwarchodgi pobl Cymru." Enillodd y Ceidwadwyr 14 sedd yn yr etholiad, sy'n ei gwneud nhw'r ail blaid fwyaf yn y Cynulliad tu ôl i Lafur. Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, bod llywodraethu heb fwyafrif clir yn mynd i fod yn "anodd" i'r Prif Weinidog newydd. "Mae mwy o her gan y Cynulliad hwn oherwydd ein pwerau deddfu," meddai.
Carwyn Jones fydd y Prif Weinidog newydd.
|
"Fe fydd Plaid Cymru yn wrthblaid adeiladol." Gan gyfeirio at sesiwn holi'r Prif Weinidog, dywedodd arweinydd y pum Democrat Rhyddfrydol Kirsty Williams byddai ei haelodau'n pwyso am well safonau iechyd, addysg ac am bolisïau i hybu'r economi yn y Cynulliad nesaf. Ynglŷn â chydweithio â Llafur, dywedodd y byddai ei phlaid "yn beirniadu pop pwnc yn unol â'u haeddiant." Cam nesaf i Mr Jones, wedi tyngu llw fel Prif Weinidog, fydd i benodi ei gabinet. Y disgwyl yw y bydd hynny'n digwydd ddydd Iau.
|