British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 11 Mai 2011, 13:36 GMT 14:36 UK
30 etholaeth i'r Cynulliad?

Cheryl Gillan
Yn sesiwn holi'r Ysgrifenydd Gwladol, roedd trafodaeth ar newid ffiniau etholaethau Cymru.

Gallai'r ffordd o ethol Aelodau Cynulliad newid, meddai Llywodraeth San Steffan ddydd Mercher.

Gofynnwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol Cheryl Gillan i ystyried newid y drefn bresennol lle mae 40 Aelod Cynulliad yn cael ei hethol i gynrychioli etholaeth ac mae'r 20 arall o'r siambr 60 aelod yn cael eu dewis trwy restr ranbarthol ar sail eu teyrngarwch pleidiol.

Arweiniodd y drefn at ethol 30 AC Llafur yr wythnos diwethaf, un aelod yn brin o fwyafrif clir.

Syrthiodd nifer seddi Plaid Cymru o'r 15 enillwyd yn 2007 i 11 eleni, ac mae'r blaid wedi bod yn ystyried a all y Bae a San Steffan rannu'r un ffiniau etholaethol - yn dilyn cynlluniau'r llywodraeth glymblaid yn San Steffan i leihau nifer etholaethau'r senedd yno.

Llafur, ar y cyfan, sy'n elwa o drefn cyntaf-i'r-felin yng Nghymru.

30 rhanbarth ac etholaeth

Wrth siarad yn sesiwn holi'r Ysgrifennydd Gwladol yn Nhŷ'r Cyffredin, holodd Jonathan Edwards, AS Plaid Cymru: "Ag ystyried bod Llafur yn gwrthwynebu dad-wneud y cyswllt rhwng etholaethau San Steffan a'r Cynulliad Cenedlaethol, a fyddai hi'n synhwyrol i'r pumed Cynulliad gael ei wneud o 30 AC rhanbarthol a 30 AC etholaeth?"

Dywedodd Mrs Gillan bod hynny'n "syniad diddorol."

Adeilad Senedd y Cynulliad
Ar hyn o bryd mae 40 AC etholaeth a 20 AC rhanbarth.

"Fe fyddaf i'n edrych ar yr argymhelliad hwn o ddifrif i gael 30 sedd cyntaf-i'r-felin a 30 ar y system rhestr."

Wythnos diwethaf, galwodd yr Arglwydd Llafur Elystan Morgan am fwy o aelodau yn y Cynulliad.

"Dwi'n sicr bod angen mwy na 60 o aelodau, bydd angen o leia' 80," meddai.

"Does 'na ddim ond dyrnaid bychan o'r 22 o gynghorau sirol Cymru sydd â llai o aelodau na 80.

"Fedrwch chi ddim rhedeg Senedd gyda nifer mor fychan â hynny - mae nifer ohonyn nhw yn weinidogion ac yn is-weinidogion, ac yn dal swyddi arbennig ffurfiol."



HEFYD
'Angen mwy o aelodau Cynulliad'?
09 Mai 11 |  Newyddion
Llai o aelodau seneddol i Gymru?
19 Ion 10 |  Newyddion
Cymru i golli mwy na 25% o ASau?
06 Medi 10 |  Newyddion
Trafod effaith newid etholaethau
09 Meh 10 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific