British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 12 Mai 2011, 11:42 GMT 12:42 UK
100 o bysgod wedi marw

Map o Geredigion

Mae mwy na 100 o bysgod wedi marw ar ôl i afon gael ei llygru yng Ngheredigion.

Dywedodd Asiantaeth yr Amgylchedd fod swyddogion yn ymchwilio i'r llygredd ym Mydroilyn ger Llambed.

"Mae'r timau yno ar hyn o bryd ac mae'r llygredd wedi effeithio ar gilomedr a hanner o Afon Mydr," meddai llefarydd.

Roedd y llygredd wedi lledu o Nant Sidyll i'r afon.

"Mae'r gwenwyn wedi ei ddyfrhau erbyn hyn ond mae posibilrwydd y bydd nifer y pysgod sydd wedi eu lladd yn cynyddu."

Cafodd y pysgod eu darganfod amser te ddydd Mercher.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific