Mae'r orsaf wedi colli £130,000 y flwyddyn yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf
|
Mae perchnogion gorsaf radio wedi gofyn i Ofcom i adael iddynt ddarlledu llai o Gymraeg. Mae Town and Country Broadcasting Cyf, sy'n berchen Radio Ceredigion, eisiau dileu'r gofyniad y dylai darllediadau sgwrsio dwyieithog yr orsaf gyfateb i 'tua hanner Cymraeg a hanner Saesneg'. Hefyd, mae'r cwmni yn dymuno gostwng y gofyniad am gerddoriaeth Cymraeg yn ystod y dydd o 20 % i 10 %. Mae Ofcom wedi penderfynu cynnal cyfnod ymgynghoriad o 10 Mai tan 3 Mehefin 2010 mewn ymdrech i gasglu barn pobl am y cais.
Dywedodd cais y cwmni fod gan Radio Ceredigion "ethos dwyieithog clir, a hon yw'r unig orsaf yn yr ardal sy'n adlewyrchu iaith a diwylliant dwyieithog yr ardal". Mae'r cais hefyd yn dweud: "Nid yw dwyieithog yn golygu, yn mynnu nac yn awgrymu 'hanner a hanner', gyda'r geiriadur yn ei diffinio fel y gallu 'i siarad dwy iaith "Dyma beth mae Radio Ceredigion yn ei wneud a bydd yn parhau i wneud hynny dan ei fformat diwygiedig." 'Swm anghynaladwy' Mae'r cais hefyd yn datgan fod cyfrifon rheoli'r chwe mis hyd at fis Medi 2009 yn dangos colledion o dros £60,000 a bod colledion llawn y ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod 'yn swm anghynaladwy' o £130,000 a mwy'r flwyddyn. Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Town and Country Broadcasting Cyf, Martin Mumford: "Ni all fod yn iawn fod gorsaf radio leol yn gorfod canfod cyfrannwr sy'n siarad Cymraeg bob tro rydyn ni'n defnyddio cyfraniad gan rywun sy'n siarad Saesneg. "Ni all fod yn iawn ein bod ni'n gorfod torri darnau o sgwrsio lleol pwysig neu berthnasol, gan olygu nad yw'r fformat presennol yn addas i'r diben." Lansiwyd Radio Ceredigion ym 1992 gyda thalgylch mesuradwy o 72,000 o oedolion mwy na 15 oed. Daeth yr orsaf i feddiant Town and Country Broadcasting Cyf ym mis Ebrill 2010, drwy is-gwmni, yn bennaf ym mherchnogaeth Radio Ceredigion Cyf. Mae Cyfeillion Radio Ceredigion (CRC) yn gymdeithas a sefydlwyd pum mlynedd yn ôl ar gais gwrandawyr i warchod patrwm darlledu'r orsaf. Beirniadu Dywedodd cadeirydd CRC, Geraint Davies: "Rydyn ni'n croesawi'r ffaith bod Ofcom wedi penderfynu cynnal ymgynghoriad oherwydd o dan y ddeddf bresennol mae ganddynt yr hawl i ganiatáu'r fath hon o gais heb ymgynghoriad. "Rydyn ni'n galw ar Ofcom i sicrhau bod Radio Ceredigion yn glynu at fformat gwreiddiol y gwasanaeth. "Rydyn ni hefyd yn galw ar unigolion, mudiadau a chymdeithasau o fewn y sir a'i chyffiniau i ymateb yn yr un modd gan fod y cais yn sarhaus, nid yn unig i enw da Radio Ceredigion ond hefyd ar yr iaith Gymraeg." Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, hefyd, wedi beirniadu'r cais. Dywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Nid yn unig mae Radio Ceredigion yn ceisio lleihau ei darpariaeth Gymraeg ond mae Real Radio wedi cael trwydded i ddarlledu drwy Gymru gyfan heb ddatgan unrhyw fwriad i gynnig darpariaeth Gymraeg, felly does dim dwywaith fod pethau'n dirywio'n sylweddol. "Mewn ardal lle mae dros hanner y boblogaeth yn siarad Cymraeg dylai Radio Ceredigion, fod yn adlewyrchu'r galw yn hytrach na thorri arno. "Mae'r ystod o orsafoedd sydd ar gael nawr yn Saesneg wedi ffrwydro, tra bo'r hyn sydd ar gael yn y Gymraeg wedi crebachu'n sylweddol. Mae'r profiad hwn yn cryfhau ein dadleuon fod angen datganoli cyfrifoldeb dros ddarlledu yma i Gymru." Rhoddodd Ofcom ganiatâd i'r perchnogion newydd adleoli'r orsaf o'i chanolfan flaenorol yn Aberystwyth i'w chydleoli gyda gorsafoedd eraill sy'n eiddo i Town and Country Broadcasting yn Arberth.
|