Dim ond hyd 1951 y bu'r rheilffordd yn cludo teithwyr
|
Mae pobl Aberaeron yn coffáu 100 mlynedd ers agor y rheilffordd rhwng Llanbedr Pont Steffan a'r dref. Mae Cymdeithas Aberaeron yn cynnal nifer o ddigwyddiadau a gweithgareddau tan ddydd Sul Mai 15. Agorwyd y rheilffordd i Aberaeron ar Fai 12 1911. Ar y diwrnod hwn, cafodd tua 400 o blant ardal Aberaeron fynd ar daith am ddim i Felin Fach ac yn ôl a theithiodd plant o Ddyffryn Aeron i Aberaeron ac yn ôl am ddim.
 |
Mae Cymdeithas Aberaeron yn ymroi i ddathlu hanes yr ardal wrth gyfrannu'n greadigol tuag at ddatblygiad presennol a dyfodol y dref
|
Yn y mis cyntaf, gwerthwyd dros 9,000 o docynnau gan drawsnewid bywydau nifer o bobl a busnesau. Dywedodd cadeirydd Cymdeithas Aberaeron, Mair Harrison: "Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, yr orsaf oedd y peth cyntaf i ifaciŵis ifanc ei weld wrth gyrraedd y dref." Seremoni goffáu Bu'r rheilffordd yn cludo teithwyr tan 1951 ond bu'n cario nwyddau hyd nes i'r rheilffordd gau yn derfynol yn 1965. "Ar y diwrnod gorfoleddus yna yn 1911, ychydig fyddai wedi rhagweld mai dim ond am 40 mlynedd y buasai'r rheilffordd yn gwasanaethu teithwyr," meddai Mrs Harrison.
Agorwyd y rheiffordd gan Mrs Edith Gwynne ar Fai 12 1911
|
Ar ddiwrnod y canmlwyddiant ar Mai 12 cynhelir seremoni goffáu gan ddadorchuddio plac i goffáu'r canmlwyddiant. Wedi'r seremoni, bydd 300 o blant, wedi eu gwisgo mewn gwisg o'r cyfnod, yn canu'r anthem genedlaethol cyn cerdded ar hyd yr hen reilffordd tuag at Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Llanerchaeron. Dywedodd Mrs Harrison: "Bydd criw yn cerdded i orsaf Llanerchaeron lle bydd seremoni i ddadorchuddi arwydd yn yr orsaf. " Cynhelir cyflwyniad ffotograffig o hanes y lein yn Festri Capel y Tabernacl yn y dref am 7.30pm ar Fai 13
|