Daeth cadarnhad na fydd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas yn cael ei ail-enwebu ar gyfer swydd Llywydd y Cynulliad a bydd ei gyfnod 12 mlynedd yn cadeirio ym Mae Caerdydd yn dod i ben ddydd Mercher.
Bydd yr Arglwydd Elis-Thomas yn llywyddu am y tro ola' yn y bleidlais i ethol ei olynydd.
Mae disgwyl i Rosemary Butler, yr Aelod Cynulliad Llafur dros Orllewin Casnewydd, gael ei dewis.
Mae'r Arglwydd Elis-Thomas wedi bod yn Llywydd ers cyfarfod cynta'r Cynulliad yn 1999.
Roedd Mrs Butler wedi bod yn Ddirprwy Lywydd yn ystod y Cynulliad diwetha'.
Mae'r Arglwydd Elis-Thomas wedi bod yn Llywydd ers 1999
Fe allai'r Ceidwadwyr enwebu Angela Burns fel eu hymgeisydd nhw ar gyfer swydd y Llywydd, wedi i'w harweinydd dros dro, Paul Davies, ddweud ddydd Mawrth ei fod yn credu mai rhywun o'r brif wrthblaid ddylai gael y swydd.
Ond dylai Mrs Butler gael digon o gefnogaeth gan Lafur a Phlaid Cymru.
Mae'n bosib y gallai'r Ceidwadwr William Graham gael ei enwebu fel Dirprwy.
Dim ond ar ôl dewis Llywydd a Dirprwy Lywydd y gall y Prif Weinidog gael ei ethol a dechrau ffurfio'u gabinet.
Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.