British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 10 Mai 2011, 13:17 GMT 14:17 UK
Pryderon y byddai ffermydd gwynt yn 'difetha' ardal

Peilonau trydan
Y nod: Creu rhwydwaith o beilonau 154 troedfedd o uchder

Byddai cynlluniau ar gyfer cannoedd o dyrbinau gwynt, isbwerdy trydan a dwsinau o beilonau yng nghanolbarth Cymru yn "difetha'r ardal yn llwyr", yn ôl Aelod Seneddol.

Roedd yr aelod dros Sir Drefaldwyn, Glyn Davies, yn arwain dadl yn neuadd Westminster yn Llundain ynglŷn â ffermydd gwynt yn yr ardal.

Mae tyrbinau gwynt wedi bod yn bwnc llosg i bobl leol ers peth amser, ond mae'r cwynion wedi cynyddu ers i gynlluniau am isbwerdy 19-acer a pheilonau gael eu cyflwyno.

Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cael cais i ymateb.

Wrth ymateb i'r ddadl, dywedodd y gweinidog ynni yn San Steffan, Charles Hendry, mai gwynt oedd un o'r dulliau "mwya' cost effeithiol a dibynadwy" o ynni adnewyddol, ond bod yn rhaid gosod ffermydd gwynt "yn y lleoliad cywir" a'u bod angen "mwy o gyfreithlondeb democrataidd".

Pryderon

Honnodd Mr Davies bod yna gynlluniau ar gyfer rhwng 600 ac 800 o dyrbinau gwynt yn ei etholaeth yng ngogledd Powys.

Dywedodd ei fod yn pryderu am eu heffaith ar y tirwedd, ar y diwydiant ymwelwyr ac ar brisiau tai yn yr ardal.

Glyn Davies AS
Dyw hyd yn oed gelynion Prydain dros y canrifoedd ddim wedi achosi'r fath ddinistr i'r rhan rhyfeddol hwn o'r Deyrnas Unedig
Glyn Davies AS

Roedd hefyd yn honni y byddai gosod tyrbinau ar dir uchel yn "difetha' rhywle 'da ni'n ei garu'n llwyr" ac y byddai'r dyffrynnoedd yn cael eu "anharddu gyda cheblau a pheilonau hyll", a bod maint yr holl gynllun "bron yn amhosib i'w ddirnad".

Dywedodd Mr Davies: "Dyw hyd yn oed gelynion Prydain dros y canrifoedd ddim wedi achosi'r fath ddinistr i'r rhan rhyfeddol hwn o'r Deyrnas Unedig.

"Bydd ein hardal gyfan, harddwch tirwedd canolbarth Cymru, yn cael ei aberthu gerbron allor duw ffug."

'Perygl gwirioneddol'

Ychwanegodd bod yr awdurdodau yn "difetha'r un peth sy'n gwneud y lle hwn yn arbennig", a bod twristiaeth yr ardal "mewn perygl gwirioneddol" oherwydd y cynlluniau.

Yn 2005 datgelodd Carwyn Jones, oedd yn weinidog amgylchedd ar y pryd, saith o ardaloedd yng nghanolbarth a de Cymru oedd wedi cael eu dewis fel lleoliadau ar gyfer ffermydd gwynt, o dan yr enw TAN 8.

Ar y pryd roedd y gwrthbleidiau yn cyhuddo Llywodraeth y Cynulliad o ganolbwyntio gormod ar ynni gwynt, gan amddifadu dulliau eraill o greu ynni adnewyddol, er enghraifft trwy ddefnyddio haul a dŵr.

Roedd TAN 8 yn rhan o bolisi Llywodraeth y DU i gynyddu cyfanswm y trydan y mae adnoddau adnewyddadwy yn ei gynhyrchu i 10 y cant erbyn 2010, ond mae Cymru wedi mynd yn bellach na'r targed ac yn cynhyrchu tua 13%.

Mae pryderon yng nghanolbarth Cymru ynglŷn â ffermydd gwynt wedi cynyddu ers i'r Grid Cenedlaethol gyhoeddi cynlluniau i sefydlu isbwerdy un ai yn Aber-miwl, ger y Drenewydd, neu yng Nghefn Coch, ger Llanfair Caereinion.

Uwchraddio

Mae'r cynlluniau hefyd yn cynnwys peilonau, rhai yn mesur 154 troedfedd (47m), dros 26 milltir (42 km) o dir.

Mae cwmni ScottishPower hefyd yn bwriadu adeiladu peilonau i gludo pŵer o hyd at 10 o ffermydd gwynt i'r isbwerdy.

Mae nifer o gyfarfodydd wedi cael eu cynnal i brotestio yn erbyn y cynlluniau ac mae grwpiau ymgyrch wedi cael eu sefydlu.

Yn ôl y Grid Cenedlaethol, mae'n rhaid uwchraddio isadeiledd y rhwydwaith trydan.



HEFYD
Isorsaf: Mil mewn cyfarfod
20 Ebr 11 |  Newyddion
Ffrae am gynllun is-orsaf drydan
26 Maw 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific