Mae'r adroddiad yn galw am sicrwydd o annibyniaeth S4C
Cafodd y penderfyniad i gyllido S4C trwy ffi'r drwydded ei wneud "ar frys" yn ôl pwyllgor o Aelodau Seneddol.
Mae'r pwyllgor dethol ar faterion Cymreig wedi bod yn edrych ar sefyllfa S4C ers diwedd y llynedd - wedi i Iona Jones adael y sefydliad fel Prif Weithredwr ddiwedd Gorffennaf ac yn ystod y cyfnod pan ymadawodd John Walter Jones fel Cadeirydd fis Rhagfyr.
Dywedodd adroddiad y pwyllgor materion Cymreig trawsbleidiol ei bod yn "drueni" i'r penderfyniad i ddod ag S4C o dan adain y BBC gael ei wneud gan Weinidogion Llywodraeth y DU a'r BBC "o fewn oriau" ac "heb ymgynghori."
Dywed bod rhaid i'r Llywodraeth sicrhau annibyniaeth y sianel.
Mynna hefyd bod rhaid i adran ddiwylliant llywodraeth y DU (y DCMS) gynnal adolygiad llawn o wasanaethau S4C.
Dywedodd Rheon Tomos, Cadeirydd Awdurdod S4C: "Mae'r adroddiad yn un cadarnhaol ar y cyfan ac yn gymorth i S4C wrth gynllunio ar gyfer y dyfodol.
"Rydym yn ymwybodol bod gwaith i wneud mewn rhai meysydd ac mae llawer o'r gwaith hynny ar y gweill ers rhai misoedd bellach."
Sicrhau cyllideb
Yn 2013, mae disgwyl i S4C gael ei chyllido trwy ffi'r drwydded yn hytrach nag yn uniongyrchol o'r llywodraeth.
Ar hyn o bryd, mae'r sianel yn derbyn grant gan y Llywodraeth - tua £100 miliwn yn 2009/10.
Ond does dim sicrwydd o gyllideb y sianel tu hwnt i 2014-15 ac mae'r pwyllgor eisiau i'r Llywodraeth sicrhau cyllideb hir dymor i'r sianel.
"Rydym ni'n argymell bod y Llywodraeth yn cadarnhau cyllideb S4C tu hwnt i 2014-2015 gynted ag y bo modd.
Argymhellion eraill
S4C i ymddangos gerbron pwyllgor yn y Cynulliad yn flynyddol
Unrhyw ddeddf ddarlledu newydd i ystyried y berthynas rhwng DCMS, Llywodraeth Cymru ac S4C.
Cadeirydd newydd i ddod gerbron y Pwyllgor Dethol i egluro'i gynigion i ddyfodol a strategaeth S4C.
DCMS i gynnal adolygiad annibynnol o S4C gynted â phosib.
"Heb y sicrwydd hwn, fydd S4C ddim yn gallu datblygu ei strategaeth at y dyfodol yn rhesymol.
"O ganlyniad, rydym yn credu ei bod yn hanfodol bod fformiwla gyllido tymor hir yn cael ei rhoi mewn i ddeddfwriaeth gynradd."
Er bod y pwyllgor yn gresynu'r ffordd y daethpwyd i gytundeb dros S4C, mae'r pwyllgor yn dweud y dylai olygu arbedion ariannol i'r ddau sefydliad.
Yn ôl amcangyfrifon, mae S4C yn gyfrifol am 2,000 o swyddi yng Nghymru, a thrwy hynny'n werth £90m i £100m i'r economi, ac felly mae'r pwyllgor yn mynnu ei bod yn hanfodol i S4C barhau i gomisiynu rhaglenni annibynnol, yn hytrach na derbyn mwy o raglenni gan y BBC.
Er bod tystion wedi awgrymu y dylai S4C gael ei symud i gadarnleoedd y Gymraeg yn y gogledd neu'r gorllewin, doedd y pwyllgor ddim yn credu bod hynny'n anghenrheidiol ond y dylai'r syniad gael ei ystyried yn y dyfodol.
Mae'r adroddiad yn cydnabod bod S4C wedi llwyddo i gynnal y nifer sy'n gwylio'n "syndod o dda" yn y byd digidol.
Ag ystyried y pwll cyfyngedig o siaradwyr Cymraeg (tua 600,000) mae ffigyrau gwylio Pobol y Cwm a Pawb a'i Farn "yn cymharu'n ffafriol â rhaglenni cyfatebol y BBC fel Eastenders a Question Time."
Mae'r pwyllgor dethol yn argymell cadw pencadlys S4C yng Nghaerdydd am y tro.
Ond mae'r pwyllgor yn credu bod angen i S4C fod yn fwy atebol - i'r Cynulliad ac i San Steffan - ac y dylai'r DCMS gynnal adolygiad annibynnol ar frys o sefyllfa S4C tra dylai S4C adrodd nôl i'r Cynulliad yn flynyddol.
'Lle i wella'
Yn ôl cadeirydd y Pwyllgor Dethol, David Davies, roedd "pryderon difrifol am y ffordd mae awdurdod S4C a'r rheolwyr wedi perfformio yn ystod y flwyddyn ddiwethaf" ond ei bod hi bellach yn amser rhoi'r problemau o'r neilltu.
Mae cyn Brif Weithredwr S4C Huw Jones wedi cael ei gadarnhau fel dewis y DCMS i olynu John Walter Jones fel cadeirydd nesaf y sianel.
Dywedodd Mr Davies bod y pwyllgor yn hapus ar y cyfan bod S4C yn darparu rhaglenni o safon "yn arbennig drama a rhaglenni plant."
"Fodd bynnag, wrth edrych tua'r dyfodol fe fyddem ni'n dadlau - fel mae S4C yn debyn - bod lle i wella ym mherfformiad S4C wrth gystadlu yn y byd aml-blarfform digidol."
Dywedodd bodd angen i'r sianel wella'i effeithlonrwydd a gwella ffigyrau gwylio.
"Rydym ni'n cydnabod bod S4C yn derbyn bod angen gwella yn y meysydd yma."
"Wrth i'r bartneriaeth a'r BBC ddatblygu, mae'n gwbl hanfodol bod S4C yn cynnal ei hannibynniaeth ymarferol a golygyddol.
"Rhaid i'r BBC beidio ag ymyrryd yng ngwaith dydd-i-ddydd y sianel."
'S4C newydd'
Mae'r undebau a mudiadau iaith gan gynnwys Cymdeithas yr Iaith ac undeb y darlledwyr BECTU wedi croesawu'r adroddiad.
"Er bod y llywodraeth wedi anwybyddu galwadau o Gymru hyd yn hyn mae'n debyg y bydd rhaid i'r Llywodraeth ail-ystyried eu cynllun annoeth yn sgil yr adroddiad beirniadol hwn," meddai Menna Machreth, llefarydd darlledu'r Gymdeithas.
"Yn sicr, rydyn ni'n cytuno gyda'r angen am S4C newydd yn yr oes aml-blatfform newydd ac yr angen am fformiwla ariannu hir dymor mewn deddf gwlad."
Dywedodd Meic Birtwistle o ran Undeb y Newyddiadurwyr: "Fe fydd yr adroddiad hwn yn rhoi pwysau mawr ar y Llywodraeth i edrych o'r newydd ar ei chynlluniau.
"Dim ond gyda ffordd newydd ymlaen, sydd yn adeiladu consensws ar draws Cymru gyfan, gallwn ni sicrhau'r rhaglenni safonol sydd angen i sicrhau llwyddiant y sianel."
Wrth ymateb i'r adroddiad, dywedodd awdurdod y BBC bod "gan y BBC ymrwymiad hirdymor i ddarlledu trwy gyfrwng y Gymraeg ac rydym ni'n parhau i fod wedi ymrwymo i S4C creadigol annibynnol.
"Rydym ni'n parhau i weithio trwy fanylion y trefniant i S4C wrth i'r BBC gymeryd mwy o gyfrifoldeb ariannol dros y sianel yn 2013.
"Yr awdurdod yw gwarchodwr y ffi drwydded ac fe fyddwn ni'n cadw golwg ar y ffordd y bydd yr arian yn cael ei wario."
Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.