British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 10 Mai 2011, 11:01 GMT 12:01 UK
Rhieni yn parhau'n anfodlon

Ysgol Pantycelyn
Mae Ysgol Pantycelyn yn un o'r ysgolion sydd wedi'u clustnodi i gau

Cafodd cynlluniau Cyngor sir Caerfyrddin i ad-drefnu addysg uwchradd yn ardal Dinefwr eu beirniadu mewn cyfarfod cyhoeddus nos Lun.

Bu llywodraethwyr a rhieni ardal Llanymddyfri yn trafod cynlluniau'r cyngor i gau Ysgol Tregib (Llandeilo) ac Ysgol Pantycelyn (Llanymddyfri) ac i godi ysgol uwchradd newydd yn ardal Llandeilo.

Mae'r cyngor yn cynnal proses ymgynghori ar hyn o bryd.

Argymhellion swyddogion addysg i godi ysgol newydd yn Ffairfach, i'r de o Landeilo, sydd wedi codi gwrychyn nifer o rieni a llywodraethwyr Pantycelyn.

'Llifogydd'

Maen nhw am weld yr ysgol newydd yn cael ei chodi yn Llangadog, pentref sydd hanner ffordd rhwng Llandeilo a Llanymddyfri.

Honnir hefyd bod yna broblem gyda llifogydd ar safle Ffairfach.

"Ni'n credu fod yr anniddigrwydd mwyaf oherwydd yr atebion gan y cyngor sir," meddai Dai Dyer, Cadeirydd Llywodraethwyr Pantycelyn.

"Gofynnwyd yr un cwestiwn yn y cyfarfod a ofynnwyd ddwy flynedd yn ôl, a dyw'r cyngor sir yn dal ddim yn ateb.

"Y pryder mwyaf yw lleoliad yr ysgol newydd.

"Mae pobl leol yn ymwybodol bod llifogydd ar y safle dan sylw ond dyw'r cyngor ddim fel pe bai nhw'n gwrando."

Bydd yna gyfarfod cyhoeddus arall yn cael ei gynnal i drafod y mater ymhellach ar Fai 17.

Dywedodd Rob Sully, Cyfarwyddwr Addysg Caerfyrddin: "Roedd y cyfarfod yn rhan o'r broses ymgynghori. Bydd y sylwadau yn cael eu nodi a'u hystyried fel rhan o'r broses o ystyried y cynlluniau dan sylw."



HEFYD
Hwb i gynllun ad-drefnu ysgolion
22 Maw 11 |  Newyddion
Mwy o ysgolion yn wynebu cau?
22 Hyd 10 |  Newyddion
Ad-drefnu addsyg: Bwrw 'mlaen?
20 Medi 10 |  Newyddion
Dyfodol ysgolion yn hollti barn
21 Ebr 10 |  Newyddion
Rhieni i ymladd cynllun cau ysgol
10 Maw 10 |  Newyddion
Ad-drefnu: O blaid cais am £60,000
22 Chwef 10 |  Newyddion
Dyfodol ysgol: Cyflwyno deiseb
02 Medi 09 |  Newyddion
Dadl addysg yn 'hollti cymuned'
06 Maw 09 |  Newyddion
Anfodlonrwydd am addysg uwchradd
27 Chwef 09 |  Newyddion
Ad-drefnu: Cyngor yn trafod
05 Ion 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific