British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 10 Mai 2011, 19:32 GMT 20:32 UK
Llafur i lywodraethu ar ei phen ei hun

Llafur i lywodraethu ar ei phen ei hun

Bwriad y Blaid Lafur, am y tro, yw llywodraethu ar ei phen ei hun yn y Cynulliad.

Gwnaeth Carwyn Jones, arweinydd Llafur y cyhoeddiad yn y Senedd ddydd Mawrth.

Mae'n gobeithio cael ei gadarnhau fel Prif Weinidog yn y Cynulliad a phenodi cabinet cyn diwedd yr wythnos.

Llwyddodd Llafur i ennill 30 o seddi yn etholiad y Cynulliad yr wythnos diwethaf, ychydig yn brin o fwyafrif cyfforddus ond hanner nifer y gynrychiolaeth sy'n golygu mai nhw yw'r blaid fwyaf.

Y Ceidwadwyr yw'r ail blaid fwyaf gyda 14 sedd, gyda Phlaid Cymru â 11 sedd a'r Democratiaid Rhyddfrydol â phump.

Carwyn Jones
Mae Llafur yn bwriadu llywodraethu ar ei phen ei hun.

Mae hyn yn rhoi Llafur yn y sefyllfa o fedru ffurfio llywodraeth ar ei phen ei hun.

"Mae nifer o drafodaethau wedi cymryd lle dros y dyddiau diwethaf yma, o fewn ein plaid ni ac o fewn i eraill hefyd," meddai Mr Jones, tra'n annerch y wasg yng ngŵydd y 30 AC Llafur - 12 ohonyn nhw'n wynebau newydd sbon - yn y Senedd.

"O ganlyniad i'r trafodaethau yma, fe fydda i'n ceisio ffurfio Llywodraeth yr wythnos hon gyda chabinet o Weinidogion Llafur yn unig."

Cyd-weithio

Dywedodd nad oedd yn gwneud hynny'n fawrfrydig, ond gyda'r bwriad o wasanaethu Cymru, ac o gyd-weithio â phleidiau eraill.

"Yr hyn ddangosodd yr etholiad diweddar oedd bod yr holl brif bleidiau gwleidyddol sy'n cael eu cynrychioli yn y Cynulliad wedi cynhyrchu maniffestos yn llawn syniadau ac ongl newydd ar sut i greu Cymru well, decach a mwy goludog," meddai.

Dywedodd bod pleidleiswyr eisiau diwedd ar ddadlau gwleidyddol "er mwyn dadlau" a bod yr ymgyrch Ie o blaid mwy o bwerau i'r Cynulliad fis Mawrth eleni wedi dangos beth all y pleidiau gyflawni gyda'i gilydd "pan mae er budd Cymru."

"Fe weithion ni'n dda gyda'n gilydd i ddelifro Cynulliad newydd, gyda fframwaith newydd a dylen ni weithio i gyda'n gilydd eto, i wneud yn iawn am yr ymddiriedaeth honno ac i ddelifro ar gyfer pobl Cymru."

Y disgwyl yw i Lafur gynnig enw Rosemary Butler fel Llywydd. Hi yw AC Gorllewin Casnewydd ac mae hi wedi bod yn Ddirprwy Lywydd i Dafydd Elis Thomas ers 2007.

Os felly, y tebygrwydd yw mai William Graham o'r Ceidwadwyr fydd yn Ddirprwy Lywydd.

Gallwn ni ddisgwyl y bydd Cynulliad llawn yn cyfarfod i benodi Llywydd, Dirprwy Lywydd a Phrif Weinidog cyn diwedd yr wythnos.

llais yr wrthblaid

Mae partneriaid Llafur mewn llywodraeth yn y trydydd Cynulliad, Plaid Cymru, yn barod i gydweithio â Carwyn Jones.

"Roedd dyletswydd moesol ar Lafur fel y blaid fwyaf yng Nghymru i ffurfio Llywodraeth nesaf Cymru," meddai Ieuan Wyn Jones, arweinydd Plaid Cymru.

"Rydyn ni wedi ei gwneud hi'n glir, pe bai Llafur eisiau siarad â ni, fe fyddwn ni'n barod i wrando.

"Yn y tymor byr bydd Plaid Cymru'n chwarae ei rhan yn sicrhau bod gan Gymru wrthblaid onest.

"Fe fyddwn ni'n dwyn y Llywodraeth i gyfrif a gallwn ni sicrhau etholwyr y byddwn ni bob amser yn ceisio'r ddêl orau i bobl Cymru."

Dywedodd Paul Davies, arweinydd dros dro y Ceidwadwyr yn y Cynulliad bod rhaid i Lafur "ddilyn ei chyngor ei hun a chanolbwyntio ar ddelifro i bobl Cymru."

"Wedi etholiad Cynulliad llwyddiannus arall, ni bellach yw ail blaid fwyaf y Cynulliad Cenedlaethol.

"Rydyn ni wedi ymrwymo'n llwyr i gael yr hyn sy'n iawn i bobl Cymru, i graffu ac i ddal y llywodraeth hwn i gyfrif.

"Rhaid i Lafur roi diwedd i'w chamgymeriadau.

"Fe fydd y Ceidwadwyr Cymreig yn darparu'r llais cryfaf posibl i wneud yn siŵr bod hynny'n digwydd."

Mae Kirsty Williams, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru "eisoes wedi llongyfarch Carwyn Jones" ar ei benderfyniad.

"Mae'n amlwg i fi na fydd pobl Cymru yn cael y gwasanaeth gorau heb i'r gwrthbleidiau ddal y llywodraeth i gyfrif a chraffu ar ei benderfyniadau," meddai Ms Williams.

"Felly fe fyddwn ni'n ystyried teilyngdod pob pwnc a fydd dim ofn arnom ni i gefnogi neu herio'r llywodraeth pan fo hynny er budd pobl Cymru.

"Tra bydd y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru'n dechrau ar gyfnod o asesu eu sefyllfa, bydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru'n llais adeiladol ar ran yr wrthblaid, yn unol â'r hyn sydd ei angen ar Gymru."



NEWYDDION
PLAID ETHOL RHANB CYF +/-
LLAF 28 2 30 +4
CEID 6 8 14 +2
PC 5 6 11 -4
DR 1 4 5 -1
ARALL 0 0 0 -1

Ar ôl cyhoeddi 40 o'r 40 sedd

YR YMGYRCH
YR ARWEINWYR
PYNCIAU LLOSG
BARN Y PLEIDIAU
MANIFFESTO
YMGYRCHOEDD
CEFNDIR

Y RHANBARTHAU


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific