British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 9 Mai 2011, 17:23 GMT 18:23 UK
'Diffyg uchelgais' yw problem Plaid Cymru

John Dixon
Mae'n anfodlon ar gyfeiriad strategol Plaid Cymru

Mae cyn Gadeirydd Plaid Cymru, adawodd y blaid ychydig cyn i'r ymgyrch etholiadol ddechrau, yn dweud mai diffyg neges glir oedd problem y blaid eleni, ac ofn sefyll i fyny o blaid ei chredoau craidd.

Dywedodd John Dixon wrth BBC Cymru fis Mawrth ei fod wedi gadael Plaid Cymru am ei fod yn anfodlon gyda chyfeiriad y blaid.

Ar y pryd, roedd yn pryderu o feirniadu'r blaid yn ormodol; roedd yn gadeirydd y blaid rhwng 1992-1993 ac yna rhwng 2002-2010.

Yn fwy diweddar, mae wedi bod yn beirniadu polisïau etholiadol y blaid ar ei flog.

"Dw i'n meddwl o'r cychwyn cyntaf nad yw'r blaid yn ddigon uchelgeisiol," meddai wrth BBC Cymru.

"Doedd dim i wahaniaethu rhyngddyn nhw a'r pleidiau eraill.

"Dw i'n meddwl bod gan Blaid Cymru ddewis, dewis rhwng dau beth; dewis rhwng dweud er enghraifft, ry'n ni wedi cyrraedd ein nod, mae gyda ni senedd ddeddfwriaethol yng Nghaerdydd, bellach mae datganoli yn mynd i ddigwydd, does dim angen pwyso amdano fe, ein rôl ni yw arwain Cymru a derbyn y cyfnod presennol; y dewis arall yw i'r blaid i barhau i ddadlau'r achos, dros faint o ryddid mae'r blaid wedi gofyn amdano fe yn y gorffennol.

Asesu

"Mae'r ddwy ffordd yn ddilys - y broblem gyda'r cyntaf yw bod tair plaid arall yn gwneud yr un peth. Does dim digon o wahaniaeth rhwng Plaid Cymru a'r pleidiau eraill."

Mae Plaid Cymru wedi dweud bod angen iddyn nhw asesu sefyllfa'r blaid cyn symud ymlaen.

"Yn naturiol, mae'r grŵp yn derbyn ei fod o wedi bod yn etholiad anodd i ni," meddai'r arweinydd Ieuan Wyn Jones.

"Ond mae'r grŵp yn eithaf positif hefyd ynglŷn â beth sydd rhaid i ni wneud rŵan, sef cymeryd ein hamser, peidio â rhuthro i unrhyw ganlyniad o gwbl ac ystyried y mater yn hynod o ofalus."

Yn ôl Mr Dixon, hyd nes bydd y blaid yn gwneud penderfyniad ar ei thrywydd, dylai Ieuan Wyn Jones aros yn ei swydd.

Mae Mr Jones yntau yn dweud bod ei swydd yn rhywbeth i'w blaid drafod - ond ddim eto.

"Yn naturiol mae hwnna [yr arweinyddiaeth] yn fater i'r blaid maes o law," meddai Mr Jones.

"Ar hyn o bryd, y peth pwysicaf ydy parhau i wneud y gwaith a dw i'n hapus i barhau yn fy swydd bresennol."



NEWYDDION
PLAID ETHOL RHANB CYF +/-
LLAF 28 2 30 +4
CEID 6 8 14 +2
PC 5 6 11 -4
DR 1 4 5 -1
ARALL 0 0 0 -1

Ar ôl cyhoeddi 40 o'r 40 sedd

YR YMGYRCH
YR ARWEINWYR
PYNCIAU LLOSG
BARN Y PLEIDIAU
MANIFFESTO
YMGYRCHOEDD
CEFNDIR

Y RHANBARTHAU


HEFYD
Cadeirydd plaid yn gadael swydd
22 Gorff 10 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific