Ar waethaf etholiad siomedig i Blaid Cymru mae Ieuan Wyn Jones yn aros fel arweinydd.
|
Wedi siom etholiad y Cynulliad, mae Plaid Cymru am gymryd amser i asesu ei sefyllfa. Mae Ieuan Wyn Jones yn aros fel arweinydd am y tro, ac ond yn bwriadu trafod clymbleidio os daw cynnig gan unrhyw blaid arall i wneud hynny. Unarddeg o seddi enillodd Plaid Cymru wedi i'r cyfri orffen brynhawn Gwener, pedair sedd yn llai na'r 15 enillwyd ganddyn nhw yn 2007. Bryd hynny, 26 o seddi enillodd plaid fwyaf y Cynulliad, Llafur. Y tro yma, y blaid honno eto yw'r blaid fwyaf ac mewn sefyllfa gryfach gyda 30 o'r 60 sedd, felly â'r opsiwn o lywodraethu ar ei phen ei hun heb fwyafrif clir. Ystyried Ers amser, mae Llafur wedi dweud na fydden nhw'n ystyried clymbleidio â'r Ceidwadwyr, sy'n ail blaid gyda 14 sedd felly dim ond Plaid Cymru neu'r Democratiaid Rhyddfrydol a'u pum sedd sydd ar gael fel partner clymbleidio. Mae Ieuan Wyn Jones wedi cyfaddef wrth BBC Cymru i'w blaid gael "etholiad anodd". "Ond mae'r grŵp [yn y Cynulliad] yn eithaf positif hefyd, ynglŷn â beth sydd raid i ni wneud rŵan, sef cymryd ein hamser, peidio â rhuthro i unrhyw ganlyniad o gwbl ac i ystyried y mater yn ofalus," meddai. "Byddwn ni'n trafod y mater ymhellach yn y pwyllgor gwaith dydd Sadwrn ynglŷn ag edrych ar yr etholiad, gweld beth aeth o'i le a gweld beth aeth yn iawn hefyd .... ac i ddod i gasgliad maes o law." Yn y cyfamser, bydd Mr Jones yn cadw'i swydd fel arweinydd. "Yn naturiol mae hwnna [yr arweinyddiaeth] yn fater i'r blaid maes o law," meddai. "Ar hyn o bryd, y peth pwysicaf ydy cario mlaen i wneud y gwaith a dwi'n hapus i gario mlaen yn fy swydd bresennol." Trafod anffurfiol Does neb o Lafur wedi dod â chynnig i Blaid Cymru glymbleidio - hyd hynny, fydd Mr Jones na'i blaid ddim yn ystyried y peth. "Yn naturiol, mae yna drafodaeth anffurfiol wedi cymeryd lle, ond dydy hynny ddim wedi arwain at unrhyw fath o gynnig yn cael ei wneud," meddai. "Yr unig ffordd ymlaen ydy, os ydy Llafur isio rhoi cynnig ymlaen, mater wedyn ydy i ni ystyried. "Os ydy'r blaid Lafur yn rhoi cynnig ymlaen, yn naturiol fe fyddwn ni'n ei ystyried o fel unrhyw gynnig arall." Pe bai cynnig yn dod, byddai Plaid Cymru'n ystyried y budd i Gymru o'i dderbyn, meddai. "Nid ein bwriad ni yw ceisio cael cyfnod arall mewn llywodraeth. "Rhaid i ni wastad wneud yr hyn sydd orau i Gymru. "Cyn belled â bod unrhyw drefniant llywodraethol fel hyn yn y cwestiwn, dydw i ddim am wneud unrhyw sylw pellach arwahân i ddweud mai mater rŵan ydy o i'r blaid Lafur ddod ymlaen efo'u cynnig ac mi wnawn ni ystyried hynny."
|