British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 9 Mai 2011, 13:56 GMT 14:56 UK
Astudio effaith ynni llanw yn Sir Benfro

Modelu 3D
Bydd gwyddonwyr yn cyflawni modelu 3D o wely'r mr

Bydd gwyddonwyr yn treulio'r wythnosau nesaf yn ymchwilio effaith y byddai cynhyrchu ynni o lanw yn ei gael ar amgylchedd morol Sir Benfro.

Bydd arbenigwyr o bum prifysgol Gymreig yn gweithio ar ddwy long ymchwil yn Swnt Dewi ger Tŷddewi.

Mae prosiect ynni llanw, a fydd yn darparu trydan ar gyfer 1,000 o gartrefi yn Sir Benfro, wedi ei gymeradwyo am flwyddyn.

Bydd 25 o wyddonwyr o golegau yn Abertawe, Aberystwyth, Bangor, Caerdydd a Sir Benfro yn ceisio canfod sut mae cynlluniau o'r fath yn effeithio llamhidydd, morloi, adar, a'u hamgylchedd.

Mae'n rhaid ystyried cynlluniau eraill
Chris Wooldridge

Defnyddir llong ymchwil Prifysgol Abertawe, Noctiluca, a llong ymchwil Prifysgol Caerdydd, Guiding Light, fel labordai.

Bydd gwyddonwyr yn arsylwi bywyd gwyllt y môr, cyflawni modelu 3D o wely'r môr, ac yn astudio ymddygiad pysgod a mesur sŵn cefndir tanfor.

Potensial

Dywedodd Dr Chris Wooldridge o Brifysgol Caerdydd, y byddai'r tîm yn cyflawni asesiad annibynnol a diduedd o effaith debygol cynhyrchu ynni o lanw.

Ychwanegodd fod yna gryn botensial i greu ynnio'r môr o gwmpas Sir Benfro, Ynys Môn a Môr Hafren.

Argraffiad arlunydd o gynllun ynni'r llanw
Mae prosiect peilot wedi ei leoli yn Swnt Dewi

Ond roedd rhaid darganfod os oedd y syniad yn gynaliadwy.

Dywedodd Dr Wooldridge: "Mae Llywodraeth y Cynulliad yn cefnogi ynni glan, ond sawl ferm wynt arall all gael eu codi?"

"Mae rhaid ystyried cynlluniau eraill."

Mae'r cynllun 1.2MW yn Swnt Dewi yn cynnwys tri generadur.

Mae gan bob un o'r tri generadur, rotor, 15m o hyd sydd yn gallu troi a chreu trydan yn ystod cyfnodau llanw a thrai.

Cefnogir y cynllun, a ddyfeisiwyd gan beiriannwr o Sir Benfro, Richard Ayre, gan dros £500,000 o arian yr Undeb Ewropeaidd.



Chwiliwch yn Gymraeg


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific