British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 9 Mai 2011, 14:47 GMT 15:47 UK
Y dyfalu ym Mae Caerdydd yn parhau

Welsh assembly
Mae AC newydd wedi galw ar Lafur i ffurfio llywodraeth ar ei phen ei hun.

Wrth i Aelod Cynulliad newydd alw ar Lafur i lywodraethu ar ei phen ei hun, mae'r Prif Weinidog wedi addo datganiad ddydd Mawrth fydd yn sicrhau "llywodraeth sefydlog" i Gymru.

Mae Mick Antoniw, cyfreithiwr ac AC Llafur newydd Pontypridd, wedi galw ar ei blaid i ffurfio Llywodraeth heb help plaid arall, wedi ei llwyddiant yn etholiad wythnos ddiwethaf i sicrhau 30 sedd - union hanner nifer y seddi yn y Cynulliad.

Doedd dim un plaid arall yn agos ati, gyda'r Ceidwadwyr yr ail blaid fwyaf ar 14 cynrychiolydd, Plaid Cymru ar 11 a'r Democratiaid Rhyddfrydol ar 5.

"Rwy'n credu bod dyletswydd ar Lafur i ffurfio llywodraeth," meddai Mr Antoniw.

"Mae ganddom ni 50% o'r seddi.

Llywodraeth sefydlog

"Fy mhryder mwyaf i yw mai'r drafferth yn y Cynulliad gyda chlymbleidio yw ei fod e'n gwneud popeth yn rhy gyfforddus ac mae'n tynnu oddi ar safon y craffu a'r her i beth mae'r llywodraeth yn ei wneud.

"Ac rwy'n meddwl os oes ganddoch chi Gynulliad o 60 o bobl, rhaid i chi feddwl yn ofalus iawn am fentro mewn i glymblaid.

"Rhaid iddo fod yn anghenraid am lywodraeth sefydlog, nid cyfleustra."

Carwyn Jones
Mae diswgyl cyhoeddiad ddydd Mawrth

Mae Carwyn Jones, arweinydd Llafur, wedi addo datganiad ar ffurfio llywodraeth sefydlog ddydd Mawrth.

Ar hyn o bryd, mae gweinidogion Llywodraeth y trydydd Cynulliad, o glymblaid Plaid Cymru-Llafur ffurfiwyd yn 2007 mewn grym hyd nes bydd aelodau newydd y Cynulliad yn pleidleisio am lywodraeth newydd.

"Mae pobl Cymru wedi ei gwneud hi'n glir iawn eu bod nhw eisiau llywodraeth dan arweiniad Llafur ac maen nhw eisiau i Carwyn Jones fod y Prif Weinidog nesaf," meddai llefarydd ar ran Llafur.

"Mae hyn wedi ei dderbyn gan y pleidiau eraill yn y Cynulliad.

"Mae trafodaethau anffurfiol wedi bod yn mynd rhagddynt heddiw (ddydd Llun) a dros y penwythnos o fewn i Lafur Cymru ac o fewn i'r pleidiau gwleidyddol eraill.

"Fe fydd y grŵp Llafur newydd yn cyfarfod yfory i drafod dewisiadau ac i gytuno ar y ffordd iawn ymlaen i Gymru.

"Wedi'r cyfarfod hwnnw, bydd Carwyn Jones yn gwneud datganiad i sicrhau bod gan Gymru lywodraeth sefydlog cyn gynted ag sy'n bosibl."

'Mynd amdani'

Yn ôl Mr Antoniw, y tebygrwydd yw y bydd Llafur yn dod i gytundeb â'r gwrthbleidiau yn y Cynulliad yn y meysydd lle does dim llawer o wahaniaeth barn fel iechyd ac addysg.

"Dw i'n credu bod hynny'n llawer mwy tebygol na chytundeb Cymru'n Un ffurfiol.

"Tro diwethaf, roedd hynny'n hanfodol i sicrhau llywodraeth sefydlog i Gymru ac roedd e ond yn bosibl gyda chytundeb.

"Gyda 50% o'r aelodau o Lafur, mae'n llawer haws i gael llywodraeth gyda threfniadau efallai am drafodaethau ar eitemau y gallai pleidiau eraill fod â diddordeb ynddyn nhw er mwyn cynnal sefydlogrwydd.

"Ond i raddau, mae llawer o hynny'n dibynnu ar y ffordd mae'r pleidiau llai eisiau ymddwyn dros y 12 mis nesaf."

"Rwy'n credu y dylem ni fynd amdani ar ein pennau'n hunain. Mae'n bosibl.

"Gallai fod yn anodd, ond dydw i ddim yn credu bod pobl wedi'n hethol ni i gael amser rhy gyfforddus."



NEWYDDION
PLAID ETHOL RHANB CYF +/-
LLAF 28 2 30 +4
CEID 6 8 14 +2
PC 5 6 11 -4
DR 1 4 5 -1
ARALL 0 0 0 -1

Ar ôl cyhoeddi 40 o'r 40 sedd

YR YMGYRCH
YR ARWEINWYR
PYNCIAU LLOSG
BARN Y PLEIDIAU
MANIFFESTO
YMGYRCHOEDD
CEFNDIR

Y RHANBARTHAU



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific