Saif Llyndy Isaf yn nyffryn Nant Gwynant ger Beddgelert
|
Mae Catherine Zeta Jones wedi rhoi ei chefnogaeth i ymgyrch yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i brynu fferm yn Eryri. Mae apêl yr actores yn dilyn un tebyg gan yr actor Matthew Rhys ynglŷn â phrynu safle 600 erw Llyndy Isaf. Mae dros £500,000 wedi ei gyfrannu tua mis ar ôl i'r ymddiriedolaeth lansio apêl i sicrhau dyfodol un o dirluniau mwyaf gwerthfawr Eryri. Ddydd Llun rhoddwyd hwb ychwanegol i'r ymgyrch i godi £1 miliwn wrth i'r actores Gymreig Catherine Zeta Jones ddatgan ei chefnogaeth:
 |
Os na weithredwn nawr gallai datblygiad masnachol fygwth tawelwch y rhan arbennig hon o Eryri
|
Saif Llyndy Isaf yn Nant Gwynant ger Beddgelert. Mae'n gartref i lawer rhywogaeth o fywyd gwyllt sydd o bwysigrwydd cenedlaethol, yn cynnwys glas y dorlan, y dyfrgi a'r frân goesgoch. Fferm ucheldir Mae Ken Jones, sydd wedi bod yn ffermio LLyndy Isaf ers 35 mlynedd wedi penderfynu ymddeol. Dywedodd Ms Zeta Jones: "Mae prydferthwch a thirwedd Eryri yn wirioneddol unigryw ac mae gennym un cyfle mewn oes i warchod Llyndy Isaf yn yr ardal neilltuol hon o Gymru i genedlaethau'r dyfodol.
Mae angen £500,000 arall i brynu'r fferm
|
"Os na weithredwn nawr gallai datblygiad masnachol fygwth tawelwch y rhan arbennig hon o Eryri." Ychydig dros fis yn ôl galwodd yr actor Matthew Rhys ar bobl Cymru a thu hwnt i gynorthwyo'r apêl i godi'r arian i brynu'r fferm ar lan Llyn Dinas. Dyma apêl gefn gwlad fwyaf yr Ymddiriedolaeth yn y Deyrnas Gyfunol ers dros ddeng mlynedd. "Rydym wrth ein bodd gydag ymateb y cyhoedd", meddai Richard Neale, Rheolwr Cyffredinol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Eryri. 'Blog' "Rydym wedi cael cychwyn rhagorol i'r apêl i godi'r £1 miliwn angenrheidiol i sicrhau dyfodol Llyndy Isaf, diolch i garedigrwydd unigolion sydd wedi anfon cyfraniadau drwy'r post ac ar-lein." "Pan lansiwyd yr apêl gennym dechreuais flog ac rydw i wedi cael fy syfrdanu gan yr ymateb. "Mae pobl wedi bod yn fy holi am y lle, yn gofyn beth yw'r bygythiadau iddo a holi sut y gallent gyfrannu. "Ond, er ein bod wedi cyrraedd hanner ffordd tuag at y targed ni allwn orffwys. "Mae angen £500,000 arall i'n galluogi i brynu'r fferm a rhoi gwelliannau amgylcheddol hanfodol ar waith yn syth bin." Ym 1998 gyda chefnogaeth llywydd yr ymddiriedolaeth bryd hynny, yr actor Syr Anthony Hopkins, codwyd £4 miliwn i brynu stad Hafod y Llan ar lethrau deheuol Yr Wyddfa.
|