British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 9 Mai 2011, 16:04 GMT 17:04 UK
Aberystwyth: Ffioedd o £9,000?

Prifysgol Aberystwyth
A'i prifysgol Aberystwyth fydd y cyntaf yng Nghymru i godi ffioedd o £9,000?

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi pleidleisio o blaid cais i godi ffioedd dysgu o £9,000 y flwyddyn - y brifysgol gyntaf yng Nghymru i wneud hynny.

Bydd yn rhaid i'r brifysgol dderbyn sêl bendith Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru cyn i'r ffioedd newydd ddod i rym.

Ni fydd y penderfyniad yn effeithio ar fyfyrwyr o Gymru.

Ond bydd yn rhaid i fyfyrwyr eraill dalu mwy o fis Medi 2012.

Mae canran uchel o fyfyrwyr yn dod o'r tu allan i Gymru ac ar hyn o bryd yn talu ffioedd o £3,290 y flwyddyn.

Yn ôl y ffigyrau diweddara ar gyfer 2009/10 roedd 3,505 o israddedigion yn dod o rannau eraill o'r Deyrnas Unedig.

'Siom'

O'r gweddill roedd 2,550 o Gymru, 675 o wledydd yr Undeb Ewropeaidd a 350 o wledydd y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd.

Cafodd y penderfyniad ei feirniadu gan Urdd y Myfyrwyr Aberystwyth.

Dywedodd llywydd yr Urdd Jon Antonazzi ei fod yn "siomedig iawn fod prifysgol Aberystwyth wedi dod i'r penderfyniad yma".

Erbyn diwedd mis Mai mae gofyn i holl brifysgolion Cymru wneud cais ar gyfer y ffioedd maen nhw am eu codi.

Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn cadw llygad manwl ar ddatblygiadau.

Cafwyd addewid y bydd y Llywodraeth yn digolledu colegau am y gwahaniaeth rhwng y ffi maen nhw'n ei godi ar fyfyrwyr yn gyffredinol, a'r hyn y bydd myfyrwyr o Gymru yn gorfod ei dalu.

Yn ôl amcangyfrif y Llywodraeth fe allai'r gost o gynnal y cymhorthdal godi i £2.3 biliwn dros gyfnod o naw mlynedd.



HEFYD
£50m o Gymru i brifysgolion Lloegr
11 Chwef 11 |  Newyddion
Prifysgolion: 'Bwlch o £80 miliwn'
14 Ion 11 |  Newyddion
Incwm prifysgolion 'ddim yn newid'
15 Rhag 10 |  Newyddion
Myfyrwyr i dalu dim mwy na £3,290
30 Tach 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific