Paul Davies yw arweinydd dros dro y Ceidwadwyr
|
Mae Ceidwadwyr Cymru yn dechrau'r broses ddydd Llun o ddewis arweinydd newydd i'w grŵp yn y Cynulliad Cenedlaethol. Yn yr etholiad yr wythnos diwethaf llwyddodd y Ceidwadwyr i gynyddu nifer eu haelodau Cynulliad o 12 i 14, ond collodd yr arweinydd Nick Bourne ei sedd ranbarthol. Mae AC Preseli Penfro Paul Davies wedi cytuno i fod yn arweinydd dros dro, ond mae o eisoes wedi dweud na fydd yn ymgeisio yn ras yr arweinyddiaeth. Dywed aelod Mynwy, Nick Ramsay, ei fod o yn ystyried ymgeisio, ac felly hefyd Andrew RT Davies (Canol De Cymru) a Darren Millar (Gorllewin Clwyd). Mae disgwyl i'r broses o ddewis arweinydd newydd bara deufis. "Ddylen ni ddim diystyru unrhyw beth mewn gwleidyddiaeth," meddai Paul Davies. Diduedd "Ond ar hyn o bryd ni allaf weld unrhyw amgylchiadau lle byddwn yn ymuno yn y ras." Dywedodd y byddai'n aros yn ddiduedd unwaith i'r ymgyrch ddechrau. "Dyw hynny ond yn deg ac yn iawn," eglurodd.
Collodd Nick Bourne ei sedd yn rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru.
|
"Yn y cyfamser, mae'n rhaid i'r arweinydd dros dro sicrhau fod y blaid yn parhau i symud yn ei blaen. Cafodd Mr Davies, llefarydd y blaid ar addysg, ei ddewis yn arweinydd dros dro ddydd Sadwrn. Roedd hynny yn dilyn cyfarfod ar y cyd rhwng aelodau'r Cynulliad a bwrdd rheoli'r blaid Geidwadol yng Nghymru. Bydd yr arweinydd parhaol yn cael ei ddewis yn dilyn pleidlais gan holl aelodau'r blaid Geidwadol yng Nghymru.
|