British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 9 Mai 2011, 07:53 GMT 08:53 UK
'Angen mwy o aelodau Cynulliad'?

Yr Arglwydd Elystan Morgan
Mae'r Arglwydd Elystan Morgan yn dweud bod y Cynulliad angen o leia' 80 o aelodau

Wrth i Aelodau Cynulliad newydd Cymru ddechrau ar ei gwaith wedi'r etholiad, mae 'na alw am ailstrwythuro'r sefydliad ymhellach.

Mae un o wleidyddion mwya' profiadol Cymru wedi dweud wrth BBC Cymru fod yn rhaid i'r gwleidyddion ymateb i'r her o lunio deddfau llawn mewn meysydd sydd wedi'u datganoli.

Yn ôl yr Arglwydd Elystan Morgan, fe ddylid hefyd ailystyried nifer y gwleidyddion ym Mae Caerdydd.

"Mae 'na waith aruthrol i'w wneud," meddai ar raglen y Post Cynta' ar BBC Radio Cymru fore Llun.

'Byd newydd'

"Rhyw bedwar y cant o amser y Senedd oedd yn cael ei ddefnyddio i adolygu, ac wrth gwrs, roedd hynny ddim ond gyda deddfwriaeth isradd.

"Felly mae 'na fyd newydd yn agor o'u blaen nhw," ychwanegodd yr Arglwydd Morgan.

"Dwi'n sicr bod angen mwy na 60 o aelodau, bydd angen o leia' 80.

Meddai'r Arglwydd Morgan: "Does 'na ddim ond dyrnaid bychan o'r 22 o gynghorau sirol Cymru sydd â llai o aelodau na 80.

"Fedrwch chi ddim rhedeg Senedd gyda nifer mor fychan â hynny - mae nifer ohonyn nhw yn weinidogion ac yn is-weinidogion, ac yn dal swyddi arbennig ffurfiol."



NEWYDDION
PLAID ETHOL RHANB CYF +/-
LLAF 28 2 30 +4
CEID 6 8 14 +2
PC 5 6 11 -4
DR 1 4 5 -1
ARALL 0 0 0 -1

Ar ôl cyhoeddi 40 o'r 40 sedd

YR YMGYRCH
YR ARWEINWYR
PYNCIAU LLOSG
BARN Y PLEIDIAU
MANIFFESTO
YMGYRCHOEDD
CEFNDIR

Y RHANBARTHAU



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific