British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 9 Mai 2011, 05:45 GMT 06:45 UK
Strategaeth etholiadol o dan y lach

Yr Arglwydd Elis-Thomas
Yr Arglwydd Elis-Thomas: 'Angen sefydlogrwydd ar y blaid'

Mae'r Arglwydd Elis-Thomas wedi beirniadu strategaeth Plaid Cymru yn Etholiad y Cynulliad.

Dywedodd wrth BBC Cymru fod y penderfyniad i feirniadu Llafur yn "anghywir".

Ond dywedodd na ddylai arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, ildio'r awenau er gwaetha' perfformiad siomedig y blaid yn yr etholiad.

Fe gollodd Plaid Cymru bedair sedd, a'r Blaid Geidwadol erbyn hyn yw'r ail blaid fwya' yn y Cynulliad yn hytrach na Phlaid Cymru.

Mae'n ymddangos i mi fod 'na awydd i ddelio â'n cynbartneriaid llywodraethol mor negyddol â phosib
Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas

AC Dwyfor Meirionnydd

Dywedodd Yr Arglwydd Elis-Thomas, gafodd ei ailethol yn AC Dwyfor Meirionnydd, fod angen i'r blaid a'i harweinyddiaeth fod yn "sefydlog".

Ychwanegodd nad oedd yn credu y dylai'r arweinydd, Ieuan Wyn Jones, ymddiswyddo oherwydd canlyniadau'r Etholiad.

'Negyddol'

Y flaenoriaeth i Blaid Cymru, meddai, fyddai meddwl o ddifri am ei safle yn y Cynulliad nesa' - o fewn y llywodraeth neu wrth "graffu ar yr hyn oedd yn digwydd".

Y blaid i gyd, meddai, oedd yn gyfrifol am yr ymgyrch etholiadol.

"Mae'n ymddangos i mi fod 'na awydd i ddelio â'n cynbartneriaid llywodraethol mor negyddol â phosib," meddai.

"Dwi ddim yn credu bod digon o ymdrech i egluro safbwynt y blaid am faterion arbennig yn ystod ymgyrch yr etholiad."

Blaenoriaeth

Dywedodd na fyddai'n gwasanaethu mewn clymblaid â'r Blaid Geidwadol oni bai bod Llafur yn diodde' "colledion mawr".

"Mae'n amlwg bod pobl Cymru'n ymddiried yn arweinyddiaeth Carwyn Jones fel Prif Weinidog," meddai.

Pan ofynnwyd iddo a fyddai'n ystyried bod yn Llywydd eto dywedodd: "Dwi'n gwasanaethu'r Cynulliad.

"Mi fydda i'n gwneud yr hyn y mae fy nghydweithwyr yn gofyn amdano."



NEWYDDION
PLAID ETHOL RHANB CYF +/-
LLAF 28 2 30 +4
CEID 6 8 14 +2
PC 5 6 11 -4
DR 1 4 5 -1
ARALL 0 0 0 -1

Ar ôl cyhoeddi 40 o'r 40 sedd

YR YMGYRCH
YR ARWEINWYR
PYNCIAU LLOSG
BARN Y PLEIDIAU
MANIFFESTO
YMGYRCHOEDD
CEFNDIR

Y RHANBARTHAU



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific