Mae Llanelli wedi ennill Cwpan Cymru am y tro cynta yn eu hanes. Roedd Clwb Pêl-droed Dinas Bangor yn anelu at ennill y cwpan am y pedwerydd tro'n olynol ond fe gollon nhw ym Mharc y Scarlets. Y sgôr derfynol oedd 4-1. Roedd Bangor wedi ennill y bencampwriaeth y tymor hwn gyda buddugoliaeth o 1-0 yn erbyn Y Seintiau Newydd ar Ffordd Farrar wythnos yn ôl. Ond cyn hynny fe wnaeth Llanelli roi crasfa i Fangor ar yr un cae, 5-2. Fe sgoriodd Rhys Griffiths ddwy i Lanelli ddydd Sul a'r sgorwyr eraill oedd Craig Moses a Chris Venables. Fe lwyddodd Alan Bull i benio'n grefftus i Fangor chwe munud ar ôl dechrau'r ail hanner. Dydd Sul, Mai 8: Cwpan Cymru Llanelli 4 Bangor 1
|